Game of Codes: Addysg y Dyfodol

adminCystadleuaeth

MAE'R GYSTADLEUAETH HON NAWR AR GAU

Rydym yn cynnal ein cystadleuaeth raglennu Game of Codes rhithwir gyntaf eleni. Bydd y gystadleuaeth yn caniatáu i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a gwaith tîm wrth wella eu gwybodaeth am raglennu cyfrifiadurol mewn ffordd hwyliog a dyfeisgar.

Yr her yw greu darn o feddalwedd dan y thema Addysg y Dyfodol. Gallai enghreifftiau gynnwys robotiaid i gymryd lle eich athrawon, apiau i helpu pobl ag anawsterau dysgu, gemau Scratch i ddysgu Mathemateg, byd ym Minecraft i ddysgu Hanes i ni, neu rywbeth sy'n ein helpu i ddysgu mewn ffordd newydd a hwyliog.

Rhaid bod gan eich meddalwedd ddyluniad gwreiddiol a allai fod ar ffurf gêm, gwefan, ap, cwis neu animeiddiad. Gellir defnyddio unrhyw iaith godio i greu'r feddalwedd e.e. Scratch, Python, Java, Visual Basic, App Inventor neu HTML, a gallwch chi ddefnyddio’r Raspberry Pi neu'r BBC micro:bits a allai fod gennych yn eich ysgol.

Yn ystod y cyfnod cyn y gystadleuaeth, gall grwpiau yn eich dosbarth ysgol, disgyblion o'ch ysgol gynradd leol neu'ch Technoclub cyfan gyfrannu at ddatblygiad eich meddalwedd. Ond, ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth, bydd angen i chi enwebu tîm o ddau i chwech o bobl o'r ysgol a allai fynychu'r gystadleuaeth olaf a'r diwrnod gwobrwyo. Mae'n bwysig bod gan y grŵp gallu cymysg. Dim ond ceisiadau tîm fydd yn cael eu derbyn i'r gystadleuaeth a rhaid i bob cais tîm ddarparu cyswllt athro (neu arweinydd clwb) a chael cefnogaeth eu hysgol, cyn cystadlu. Nid oes cyfyngiad ar nifer y timau y gall ysgol gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Cofiwch wrth greu eich meddalwedd, mae'n hanfodol ystyried y canlynol:

  • A yw'ch meddalwedd yn arloesol? A fydd pobl eisiau ei ddefnyddio? Allwch chi gyrchu meddalwedd debyg ar y farchnad? Beth sy'n gwneud eich meddalwedd yn wahanol? Pam fyddai rhywun eisiau defnyddio'ch meddalwedd?
  • At bwy mae'ch meddalwedd wedi'i hanelu a sut y byddwch chi'n eu targedu? Er enghraifft, os yw'ch gêm feddalwedd wedi'i thargedu at ferched yn eu harddegau, sut y byddwch chi'n sicrhau eu bod am ddefnyddio'r feddalwedd?
  • Ydy'ch meddalwedd yn edrych yn hwyl? Byddwch yn greadigol!

Mae cofnodion tîm yn gyflwyniad PowerPoint ac maent yn cynnwys y canlynol:

  • Enw'r prosiect
  • Nod y prosiect
  • Aelodau'r tîm
  • Sut wnaethoch chi greu'r feddalwedd (e.e. pa iaith wnaethoch chi ei defnyddio)?
  • Tystiolaeth o'ch meddalwedd e.e. sgrinluniau, ffeil feddalwedd neu ffotograffau o'r cynnyrch terfynol
  • Dyluniad y prosiect (Sut olwg oedd arno cyn i chi ddechrau codio? A oedd gennych unrhyw gymeriadau? Sut wnaethoch chi benderfynu beth oedd y prosiect yn mynd i'w gyflawni?)
  • Myfyrio (Sut wnaethoch chi wneud penderfyniadau fel tîm? Trafodwch gyfrifoldeb pob aelod o'ch tîm. Pa gamau wnaethoch chi eu cymryd i wneud y feddalwedd? A wnaethoch chi unrhyw newidiadau, os felly, pa newidiadau? Beth wnaethoch chi ei ddysgu wrth greu'r prosiect terfynol?)

Mae'r ceisiadau bellach ar agor a dylid e-bostio ceisiadau sydd wedi'u cwblhau o gyfeiriad e-bost cofrestredig yr athro i gameofcodes@technocamps.com gyda'r llinell bwnc 'Technocamps Game of Codes Competition' erbyn 4pm ar Ddydd Gwener 26ed Mawrth 2021.

Shortlisted teams will be invited to attend the Virtual Game of Codes Competition prize day hosted by School of Computer Science and Informatics at Cardiff University at 4-6pm on Ddydd Iau 22ail Ebrill 2021, where each team will be given the opportunity to showcase their entry to academics and special guest judges. The best entries will receive Amazon vouchers and goodie bags, and every team will receive a Certificate of Attendance.

Am unrhyw gyngor, cwestiynau neu gefnogaeth ar y gystadleuaeth, cysylltwch â'r tîm ar gameofcodes@technocamps.com gameofcodes@technocamps.com