Lansio Podlediad Newydd i Annog Pobl Ifanc i Ystyried Gyrfaoedd STEM

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Mae ein podlediad newydd, Technotalks, yn bwriadu difyrru a hysbysu pobl ifanc am y gyrfaoedd sydd ar gael iddynt yn y sectorau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Bob wythnos, bydd pobl ysbrydoledig mewn gyrfaoedd STEM yn trafod beth mae eu swydd yn ei gynnwys, eu llwybrau gyrfa a'r dechnoleg newydd gyffrous yn eu maes.

Bydd Laura Roberts, ein Cydlynydd Rhanbarthol ar gyfer De-ddwyrain Cymru, yn cynnal y podlediad, gan gyfweld â gwesteion o bob rhan o Gymru a thu hwnt am eu rolau mewn STEM.

Mae'r podlediad yn dilyn llwyddiant ein rhaglen GiST sef cyfres o weminarau lle mae menywod mewn STEM yn dangos eu swyddfeydd i blant ysgol ac yn trafod eu swyddi cyn ateb cwestiynau gan fynychwyr. Gyda dros 300 yn bresennol ers ei lansio ym mis Medi, mae'r rhaglen wedi ennill dilyniant mawr. Nod y podlediad yw dod â'r un cyngor i gynulleidfaoedd mewn modd mwy hygyrch fel y gallant wrando yn eu hamser eu hunain.

Bydd penodau'n cael eu rhyddhau bob wythnos yn ystod y tymor a bydd pob pennod tua hanner awr o hyd. Nod y podlediad yw cyrraedd merched 11-18 oed yng Nghymru, ond bydd y sioe ar gael i gynulleidfa lawer ehangach ar technocamps.com a phob platfform ffrydio mawr gan gynnwys Spotify ac iTunes.

Penodau:

Pennod 1 | Dydd Gwener 11eg Mehefin
Mae Stephanie Howarth, Prif Ystadegydd Cymru, yn siarad â Laura am ei brwdfrydedd o ystadegau a pha mor brysur y mae hi wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf! Rydym hefyd yn trafod BBC micro:bit a sut y gallwch ei ddefnyddio i ddatblygu eich sgiliau codio.

Pennod 2 | Dydd Gwener 18fed Mehefin
Mae Laura yn sgwrsio â Swyddogion Addysgu Technocamps am eu llwybrau gyrfa a pham eu bod wrth eu bodd yn gweithio yn Technocamps! Rydym hefyd yn sgwrsio am yr iaith raglennu gweledol wedi'i seilio ar flociau, Scratch. 

Pennod 3 | Dydd Gwener 25ain Mehefin
Yn yr episod Cymraeg hon, mae ein Swyddog Addysgu Nia yn siarad â Lowri Joyce, Rheolwr Rhanddeiliaid Trafnidiaeth Cymru, am ei rol. Yna, rydyn ni’n trafod argraffu 3D yn ein hadran dechnoleg.

Pennod 4 | Dydd Gwener 2il Gorffennaf
Am weithio ym maes meddygaeth, ond ddim yn awyddus i fod yn feddyg? Darganfyddwch fwy am Dechnoleg a Ffiseg Feddygol gyda'r Peiriannydd Carly Nettleford a'r Ffisegydd Meddygol Natalie Abbott. Yn ein hadran dechnoleg, rydyn ni'n sgwrsio am becyn roboteg Prime LEGO SPIKE Prime. I gael mwy o wybodaeth am weithio mewn Ffiseg Feddygol, ewch i https://nshcs.hee.nhs.uk/ 

Pennod 5 | Dydd Gwener 9fed Gorffennaf
Rydyn ni'n siarad â Lorna Bolton, Cyfarwyddwr Masnachol cwmni cyfreithiol Greenaway Scott, am ei llwybr anarferol i mewn i STEM. Astudiodd hi'r gyfraith ac mae bellach yn arbenigo mewn achosion cyfreithiol sy'n ymwneud â gwyddoniaeth a thechnoleg. Rydym hefyd yn trafod technolegau AR yn ein hadran dechnoleg.

Pennod 6 | Dydd Gwener 16eg Gorffennaf
Ym mhennod olaf y gyfres, rydyn ni'n cwrdd â Freya a Louise o MadeTech ac yn gofyn iddyn nhw am eu rolau yn y diwydiant technoleg! Yna byddwn yn sgwrsio am dechnoleg y dyfodol...