Rhaglen DP Ardystiedig Rhad ac Am Ddim i Athrawon Ysgolion Cynradd *Cwrs yn Llawn*

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Rydyn ni'n cynnig rhaglen DPP rhithwir 10-sesiwn i athrawon ysgol gynradd gyda'r bwriad o wella gwybodaeth am Gyfrifiadureg a Meddwl Cyfrifiadurol a chymhwyso’r sgiliau hyn yn yr ystafell ddosbarth ac yn strategol ar draws yr ysgol.

Yn dilyn llwyddiant y sesiynau hyfforddi rhithwir y cynigion ni i athrawon ysgol gynradd yn ystod y cyfnod cloi, rydym yn falch o allu cynnig rhaglen lawn yn nhymor yr Hydref. Mae'r sesiynau hefyd yn cysylltu â'r DCF ac yn gweithio ar draws AoLEs newydd y cwricwlwm newydd.

Trwy gymryd rhan yn y rhaglen hon, byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth gan ddod yn Athro Technocamps Ardystiedig, a bydd eich ysgol yn ennill statws Ysgol Technocamps Ardystiedig ar lefel Efydd, Arian neu Aur.

Dyrennir gwobrau ar sail cwblhau rhaglen Hyfforddi (DPP) Athrawon Technocamps gan athrawon unigol, ac ar sail nifer yr athrawon sy’n cwblhau’r rhaglen yn yr ysgol.

Dyma strwythur y cwrs DPP nesaf:
10 x sesiwn 2 awr
1. 4.30-6.30pm, Dydd Mercher 27ain Medi
2. 4.30-6.30pm, Dydd Mercher 4th Hydref
3. 4.30-6.30pm, Dydd Mercher 11eg Hydref
4. 4.30-6.30pm, Dydd Mercher 18fed Hydref
5. 4.30-6.30pm, Dydd Mercher 25ain Hydref
6. 4.30-6.30pm, Dydd Mercher 8fed Tachwedd
7. 4.30-6.30pm, Dydd Mercher 15fed Tachwedd
8. 4.30-6.30pm, Dydd Mercher 22ain Tachwedd
9. 4.30-6.30pm, Dydd Mercher 29ain Tachwedd
6. 4.30-6.30pm, Dydd Mercher 6ed Tachwedd 

Roedd pob cyfranogwr wedi adrodd bod y cwrs wedi cael effaith fawr arnyn nhw, eu hysgolion a'u disgyblion. Mae Ysgol Gynradd Hirwaun ac Ysgol Gynradd Sgeti wedi ennill achrediad Aur, gydag Ysgol y Castell, y Rhyl yn ennill Arian.

The current course for this Autumn term is now full, keep an eye on our socials and website posts for information on next term’s course.