Mae unrhyw un sydd wedi cymryd rhan yn ein gweithdai yn gwybod bod gennym ni ddawn o droi gwyddoniaeth a thechnoleg gymhleth yn weithgareddau hwyliog a diddorol!
Rhwng 7fed-11eg Awst, rydyn ni'n eich gwahodd i wneud rhywbeth gwahanol a chyffrous yn ystod gwyliau'r Haf. Dewch i'n Hacademi STEM i fwynhau gweithgareddau gwyddonol yn Abertawe . Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed i greu syniadau hwylus sy'n siŵr o ddifyrru ac ennyn diddordeb eich disgyblion. Bydd gweithdai yn canolbwyntio ar micro:bits, roboteg a mwy!
Mae’r Academi wedi’i thargedu at ddisgyblion oed 10 ac yn hŷn ac mae’n rhad ac am ddim diolch i gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
