Computing: History & Impact
Lleoliad: Hybrid Abertawe
Lefel: Dechreuwyr
Dyddiad Dechrau: 7th October 2024
Amser cyswllt: Un noswaith yr wythnos, 10 wythnos
Pris: Rhad ac am ddim
Cysylltwch â Maria Moller am ragor o wybodaeth.
Gwybodaeth am y cwrs
Nid yw'r chwyldro cyfrifiadurol wedi arafu ers y 1940au. Yn y byd digidol, ble yn union ydyn ni, a sut gyrhaeddon ni yma? Ble ydyn ni'n mynd? Bydd y modiwl hwn yn darparu gwybodaeth a dealltwriaeth hanesyddol o darddiad a datblygiad cyfrifiadura a phrosesu data, a'u heffaith ar y byd. Mae'r modiwl yn rhyngddisgyblaethol, yn gosod datblygiadau technegol mewn cyd-destunau hanesyddol ac yn myfyrio ar dueddiadau dynol. Cefnogir y modiwl hwn gan Gasgliad Hanes Cyfrifiadura Prifysgol Aberawe.
Rhaglennu Python 1
Lleoliad: Hybrid Abertawe
Lefel: Dechreuwyr
Dyddiad Dechrau: Wedi cau
Amser cyswllt: Un noswaith yr wythnos, 10 wythnos
Pris: Rhad ac am ddim
Cysylltwch â Maria Moller am ragor o wybodaeth.
Gwybodaeth am y cwrs
Mae Python wedi bod yn tyfu'n gyson mewn poblogrwydd dros y degawd diwethaf fel yr iaith raglennu o ddewis ar gyfer rhaglenwyr cychwynnol a datblygwyr meddalwedd profiadol. Mae hyn oherwydd ei gystrawen glir a rhwyddineb wrth ddatblygu a chynnal cod.
Mae'r modiwl hwn yn dysgu hanfodion rhaglennu yn Python. Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau ar gyfer ysgrifennu a dadfygio rhaglenni syml gan ddefnyddio cysyniadau rhaglennu sylfaenol. Byddwch hefyd yn ennill dealltwriaeth o algorithmau a sut i'w datblygu.
Hanfodion Seiberddiogelwch
Lleoliad: Hybrid Abertawe
Lefel: Dechreuwyr
Dyddiad Dechrau: Wedi cau
Amser cyswllt: Un noswaith yr wythnos, 10 wythnos
Pris: Rhad ac am ddim
Cysylltwch â Maria Moller am ragor o wybodaeth.
Gwybodaeth am y cwrs
Mae seiberddiogelwch yn bryder cynyddol i bob busnes, mawr a bach. Mae ymosodiadau seiber yn dod yn fwyfwy cyffredin, a gall eu heffaith ar gwmni neu sefydliad fod yn drychinebus. Mae'r modiwl hwn yn archwilio hanfodion seiberddiogelwch; yn amlinellu'r mathau cyffredin o ymosodiadau seiber a sut i liniaru yn eu herbyn; ac yn archwilio agweddau ymarferol a damcaniaethol ar ddiogelwch cyfrifiaduron a rhwydwaith.
Sylfeini Rhaglennu Gorchmynnol
Lleoliad: Ar-lein
Lefel: Dechreuwyr
Dyddiad Dechrau: Wedi cau
Amser cyswllt: Un noswaith yr wythnos, 10 wythnos
Pris: Rhad ac am ddim
Cysylltwch â Maria Moller am ragor o wybodaeth.
Gwybodaeth am y cwrs
Mae rhaglenni cyfrifiadurol yn cael eu defnyddio gan y rhan fwyaf ohonom yn ein bywydau bob dydd. Mae meddalwedd yn bresennol yn y rhan fwyaf o ddyfeisiau modern mewn rhyw ffurf neu'i gilydd. Mae'r modiwl hwn yn dysgu hanfodion ysgrifennu rhaglen feddalwedd weithdrefnol. Byddwch yn dod i ddeall y mathau o ieithoedd rhaglennu sydd ar gael a’r strwythurau a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o feddalwedd. Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu dylunio a datblygu eich meddalwedd weithdrefnol eich hun gan ddefnyddio llyfrgelloedd meddalwedd a'ch cod eich hun. Byddwch yn dysgu sut i ddylunio eich algorithmau sylfaenol eich hun ac ysgrifennu meddalwedd i fodloni gofynion defnyddwyr. Bydd y modiwl hwn yn defnyddio iaith raglennu C.
Dysgu Peiriant
Lleoliad: Caerdydd
Lefel: dechreuwyr
Dyddiad Dechrau: Wedi cau
Amser cyswllt: Un noswaith yr wythnos, 10 wythnos
Pris: Rhad ac am ddim
Cysylltwch â Maria Moller am ragor o wybodaeth.
Gwybodaeth am y cwrs
Dysgu peiriant yw un o'r sgiliau mwyaf poblogaidd yn ein byd sy'n cael ei yrru gan ddata heddiw. Fodd bynnag, gall dysgu sut i ddatblygu, hyfforddi a gwerthuso modelau dysgu peiriant fod yn heriol, yn enwedig i'r rhai nad oes ganddynt wybodaeth neu brofiad codio helaeth.
Dyna pam yr ydym wedi dylunio cwrs micro-gymhwysedd sy'n eich dysgu sut i ddefnyddio Python, AutoML, a llyfrgelloedd ffynhonnell agored cod isel eraill i berfformio Dadansoddiad Data Archwiliadol (EDA) a datblygu model dysgu peiriant heb fawr o brofiad codio. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ennill sgiliau ymarferol a gwybodaeth y gallwch eu cymhwyso i broblemau a senarios byd go iawn.
Cyflwyniad i Ddylunio Gemau Fideo
Lleoliad: Caerdydd
Lefel: Dechreuwyr
Dyddiadau: Wedi cau
Amser cyswllt: Un noswaith yr wythnos, 10 wythnos
Pris: Rhad ac am ddim
Cysylltwch â Maria Moller am ragor o wybodaeth.
Gwybodaeth am y cwrs
Bydd y cwrs hwn yn rhoi trosolwg i chi o biblinell datblygu cynnar gêm fideo.
Byddwch yn dysgu sut mae pob gêm fideo yn dechrau, o greu Dogfen Dylunio Gemau a chelf cysyniad, hyd at wneud y bloc bras cyntaf o lefel gêm mewn peiriant gêm addas, a phrofi'r mecaneg gêm a phrofiad chwaraewyr. Byddwch yn dysgu am ddylunio lefel, arferion safonol y diwydiant, a rôl y strwythur naratif – sut y gall adrodd straeon helpu i greu ymdeimlad o drochiant mewn gemau fideo.
Meddwl Cyfrifiadurol
Lleoliad: Ar-lein
Lefel: Dechreuwyr
Dyddiad Dechrau: Wedi cau
Amser cyswllt: Un noswaith yr wythnos, 10 wythnos
Pris: Rhad ac am ddim
Cysylltwch â Maria Moller am ragor o wybodaeth.
Gwybodaeth am y cwrs
Dysgwch am egwyddorion sylfaenol Meddwl Gyfrifiadurol, gan gynnwys sut i rannu problemau cymhleth yn rhannau hylaw, dadansoddi data, a dylunio algorithmau i ddatrys problemau. Byddwch yn cael trosolwg o rôl Meddwl Cyfrifiadurol mewn meysydd amrywiol a'i gymwysiadau mewn bywyd bob dydd.