Astudiaeth Achos: Paul Finch

adminAstudiaeth Achos, Degree Apprenticeship Case Study

Mae’n gyffredin meddwl bod eich addysg yn dod i ben pan fydd gennych swydd lawn-amser. Yma yn Technocamps a’r Sefydliad Codio yng Nghymru, credwn fod dysgu yn broses barhaus y gallwch ei dilyn ar unrhyw adeg yn eich bywyd. Mae Prentisiaeth Gradd Prifysgol Abertawe mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn mabwysiadu dull ‘dysgu ac ennill’ sy’n cyfuno gwaith ac astudio. I Paul Finch, Rheolwr Systemau yn EPS Construction Ltd, roedd y brentisiaeth hon yn gyfle i wella systemau TG ei gwmni a meithrin ei sgiliau digidol ei hun.

Trwy gydol y rhaglen tair blynedd, roedd Paul yn rhyngweithio â chyd-fyfyrwyr o amrywiaeth eang o gwmnïau, gyda phob un ohonynt yn meithrin yr un set sgiliau digidol. Yn ei flwyddyn olaf, datblygodd Paul ei ddarn o feddalwedd mwyaf llwyddiannus, sydd bellach yn ffurfio rhan o system ariannol EPS. Mae’r meddalwedd yn gweithio trwy nodi ac adfer amrywiannau contract. Gall yr amrywiannau hyn fodoli am sawl rheswm, ond maent yn golygu y gall cyllideb contract y cwmni newid yn ddramatig.

Mae’r feddalwedd eisoes yn cael ei gweithredu’n rhannol, ac mae wedi arbed £70,000 i EPS. Mae Cyfarwyddwr y Cwmni, Jonathan Fleming, yn amcangyfrif y bydd yn arbed £400,000 y flwyddyn i’r cwmni pan fydd ar waith yn llawn. Trwy brentisiaethau tebyg i un Paul, mae’r rhaglen Prentisiaeth Gradd yn profi nad yw addysg uwch yn dod i ben pan gewch chi swydd. I’r cyflogwyr, mae’n dangos y gall cydweithredu ag addysgwyr ddatblygu ac uwchsgilio eu gweithlu, gan baratoi eu sefydliadau yn well ar gyfer y dyfodol digidol.

I gael mwy o wybodaeth am Prentisiaeth Gradd Prifysgol Abertawe mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwyso: https://www.swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/gwyddoniaeth/daearyddiaeth/bsc-peirianneg-meddalwedd-gymhwysol/ 

“Mae’r rhaglen brentisiaeth tair blynedd o hyd wedi rhoi amrywiaeth eang o sgiliau i mi y gallaf eu defnyddio bob dydd. Ar gyfer pob un o’r 12 o fodiwlau academaidd, aethom ati i gyflawni prosiect bach yn y gwaith a oedd yn trosglwyddo’r wybodaeth a’r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwl penodol hwnnw yn uniongyrchol i’n cwmni. Mae rhaglen o’r fath, sy’n gwneud hyn ar gyfer amrywiaeth eang o gwmnïau, yn gyflawniad rhyfeddol.”