DPP ar gyfer Athrawon Ysgol Uwchradd

adminDigwyddiad, Newyddion

Beth yw addysgu rhagorol? Beth yw cynhwysion gwers ragorol? Sut olwg sydd ar wers ragorol?

Tri chwestiwn, ac nid oes ganddynt ateb cywir diffiniol. Mae'r atebion yn amrywio yn dibynnu ar safbwynt, grŵp oedran, lleoliad addysgu a'r pwnc sy'n cael ei ddysgu. Mae Cyfrifiadureg yn enigma o bwnc lle bod rhaid i addysgwyr geisio dangos yr atebion i'r cwestiynau hyn yn eu hymarfer bob dydd, ac hefyd ymgiprys â phwnc sy'n cael ei yrru'n helaeth gan wybodaeth ac sy'n newid yn rheolaidd.

Er mwyn eich helpu i gyflawni rhagoriaeth wrth fynd ar drywydd dysgu Cyfrifiadureg, rydym wedi datblygu rhaglen DPP unigryw ac arloesol sy'n edrych ar nodweddion gwers ragorol a sut y gellir cymhwyso pob nodwedd i'r fanyleb Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol TGAU gyfredol. Felly mae'r rhaglen hon wedi'i hanelu at addysgwyr Cyfrifiadureg ysgolion uwchradd a hoffai ddatblygu a gwella eu haddysgeg pwnc ymhellach.

Mae gan y rhaglen chwe gweithdy unigryw. Mae pob gweithdy'n canolbwyntio ar nodwedd o'r hyn sy'n gwneud gwers ragorol. Y gweithdai sydd ar gael trwy'r rhaglen hon yw:

– Adborth 28ain Ionawr

– Her 4ydd Chwefror

– Modelu 11eg Chwefror

– Eglurhad 25ain Chwefror

– Cynnydd Gweladwy 4ydd Mawrth

– Cwestiynu 11eg Mawrth

Cyflwynir y rhaglen gan addysgwr Cyfrifiadureg blaenllaw sydd wedi gweithio mewn ystod o ysgolion yn y sectorau addysg gyhoeddus a phreifat. Bydd pob gweithdy yn cael ei ddarparu’n rhithwir ac yn cael ei gynnal rhwng 5.30pm a 7pm. Nid yw mynychu pob gweithdy yn orfodol, gallwch ddewis mynychu pob un o'r gweithdai neu'r rhai sy'n diwallu eich anghenion datblygiad proffesiynol yn unig. Nid oes angen paratoi ymlaen llaw ar gyfer y gweithdai hyn, ond mae angen cofrestru ymlaen llaw.