Myfyriwr Gradd-brentisiaeth ar y rhestr fer ar gyfer llwyddiant!

adminGwobrau, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Rydym yn falch o gael dathlu gyda Max Rochefort-Shugar, myfyriwr ail flwyddyn ar raglen Gradd-brentisiaeth Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol BSc (Anrh) ym Mhrifysgol Abertawe.

Ar ôl cael ei enwebu yn yr haf, cafodd Max ei roi ar y rhestr hir i gael cyfweliad ym mis Medi, a llwyddodd i gyrraedd y rhestr fer. Bydd 'nawr yn mynd i'r Cinio Gwobrwyo ym mis Tachwedd yng ngwesty Voco St David's yng Nghaerdydd gyda'r gobaith o ddod â'r wobr adref.

Ymunodd Max â SONY yn 2017 ar gynllun Prentisiaeth. "I mi, prif apêl prentisiaeth oedd y cyfle i astudio tuag at gymhwyster mewn pwnc y mae gennyf ddiddordeb gwirioneddol ynddo, ac yna atgyfnerthu fy ngwybodaeth trwy ei defnyddio mewn amgylchedd proffesiynol.” Ac yntau wedi symud ymlaen 'nawr i'r Radd-brentisiaeth Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe, noda ei Chyfarwyddwr, Dr Liam O'Reilly, "Rydym yn falch iawn o gyflawniadau Max a adlewyrchir yn yr enwebiad haeddiannol hwn, ac rydym yn hapus i fod yn chwarae rhan wrth hwyluso taith ei brentisiaeth..”

Mae ein rhaglen Gradd-brentisiaeth Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn cyfuno dysgu academaidd traddodiadol mewn amgylchedd Prifysgol â phrosiectau seiliedig ar waith, sy'n galluogi Max i gymhwyso ei wybodaeth academaidd newydd yn ei rolau penodol yn Sony. Mae'r rhaglen arloesol hon yn galluogi'r myfyrwyr i ennill arian a dysgu, i aros mewn cyflogaeth lawn-amser ac ennill gradd BSc (Anrh) sy'n rhoi eu haddysg academaidd yng nghyd-destun amgylchedd eu gweithle.

Yr Athro Faron Moller, Pennaeth Sefydliad Codio Cymru: "Fel un o weithgareddau blaenllaw Sefydliad Codio Cymru, mae'r rhaglen Gradd-brentisiaeth Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe unwaith eto yn profi ei chryfderau o ran datblygu'r sylfaen sgiliau digidol mewn cwmnïau rhanbarthol ledled De Cymru.”

Dymunwn yn dda i Max ar y noson wobrwyo, ac rydym wrth ein bodd ei fod wedi cyrraedd y rhestr fer yn gydnabyddiaeth o'i lwyddiannau hyd yma.