Tîm Egni FLL Robotics yn ennill Gwobr Dewis y Beirniaid am ‘Feddwl ar Raddfa Fawr’ yng Ngŵyl y Byd yn Detroit

adminCystadleuaeth, Digwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Mae'r Ŵyl y Byd FIRST, a gynhelir yn flynyddol, yn ddathliad enfawr o bopeth sy'n ymwneud â roboteg, ac mae yna gystadleuaeth ffyrnig ond cyfeillgar rhwng y cenhedloedd. Eleni, denodd y digwyddiad dros 70,000 o ymwelwyr o bob cwr o'r byd, ac roedd yn cynnwys dros 1,300 o robotiaid yn cystadlu benben â'i gilydd ar amrywiaeth o heriau a osodwyd gan y trefnwyr ac a farciwyd gan banel o feirniaid uchel eu parch.

Hyfforddwyd y tîm, sef Issac, Jac a Thia, sy'n ddisgyblion blwyddyn 9 yn Ysgol Glan Clwyd, gan eu hathro DT, Mr Siôn Jones. Pan gawsant eu gwahodd i Ŵyl y Byd ar ôl cystadlu yn Rownd Derfynol Genedlaethol yr FLL ym Mryste, dywedodd Jac:

“Rydym wedi cynhyrfu'n lân o gael ein dewis i gynrychioli Cymru yn y rowndiau terfynol yn Detroit. Rwy'n edrych ymlaen ar gyfarfod timau FLL o bob cwr o'r byd a rhannu ein profiadau â nhw.”

Jac

Yn y cyfnod cyn y gystadleuaeth, treuliodd y tîm nifer o ddiwrnodau, yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol, yn paratoi datrysiadau arloesol i dasgau a oedd yn ymwneud â'r gofod, a hynny yn rhan o'r thema ‘Into Orbit’.

Ar ddiwedd y gystadleuaeth, cymerodd yr holl dimau ran mewn seremoni wobrwyo yn y Cobo Center yng nghanol tref Detroit, ac roedd Tîm Egni yn gyffro i gyd pan gafodd ei alw i'r llwyfan i gael un o'r gwobrau arbennig a ddewiswyd gan y beirniaid eu hunain. Cymeradwyodd y beirniaid y tîm am ei syniadau mawr mewn perthynas â datrys y broblem o ofodwyr yn teithio trwy'r gofod ar ddisgyrchiant sero.

Disgrifiodd Thia ddatrysiad y tîm: 

“Trwy efelychu disgyrchiant byw y Ddaear, mae'n datrys nifer o broblemau y gallai gofodwyr eu hwynebu. Roeddem wir yn meddwl ar raddfa FAWR wrth feddwl am broblemau i'w datrys! Gobeithio y bydd ein syniad yn cael ei wireddu rhyw ddydd!" 

Thia

Er mai dim ond tri oedd yn y tîm, roedd yr ymchwil drylwyr, ddofn a wnaed i'r broblem wedi creu argraff fawr ar y beirniaid, ynghyd â'r ffaith nad oedd arnynt ofn meddwl y tu allan i'r bocs er mwyn darganfod datrysiad ymarferol. 

Wedi i'r wobr arbennig iawn hon gael ei dyfarnu i'r tîm, dywedodd yr hyfforddwr, Mr Siôn Jones:

 “Rwyf wrth fy modd dros y tîm eu bod wedi ennill anrhydedd mor glodfawr, ac rwy'n sicr y bydd hyn wedi ysbrydoli timau eraill ledled Cymru. Ni fyddai ein taith i Ŵyl y Byd wedi bod yn bosibl heb y cwmnïau a'r unigolion hynny a neilltuodd eu hamser ac a ddarparodd gyllid ar gyfer y daith. Diolch yn arbennig i Technocamps, yr IET a'r CABC.” 

Mr Sion Jones

Mae Technocamps wedi cefnogi taith y tîm i Detroit trwy ddarparu cyngor technegol, citiau roboteg, hyfforddiant a mentoriaeth. Aeth Swyddog Cyflawni Technocamps, Teri Birch, gyda'r tîm a'i hyfforddwr, gan ddarparu cymorth ar y ddaear a chefnogaeth foesol werthfawr.

Dywedodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps: 

“The pan-Wales Technocamps programme is committed to supporting a wide range of extracurricular activities which inspire and motivate students to learn more about computer science and its related STEM subjects.  We are passionate about providing support to Welsh schools to compete on the global stage. I am over the moon to learn of Team Egni’s success and pleased to have been able to support them on their journey.”

Prof Faron Moller

Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i Technocamps gefnogi ysgol o Gymru i lwyddo yn y gystadleuaeth FIRST genedlaethol a chynrychioli'r Deyrnas Unedig yn rowndiau terfynol y byd. Mae FIRST wedi cyhoeddi ei thema ar gyfer cystadleuaeth y flwyddyn nesaf, sef ‘City Shaper’, a chyhoeddir yr heriau ym mis Awst.

Bydd Technocamps yn parhau i gefnogi'r timau uchelgeisiol o Gymru i baratoi ar gyfer yr her, a gobeithiwn y bydd yna gynrychiolydd o Gymru yng Ngŵyl y Byd unwaith eto.