Rydym yn defnyddio cwcis i ddadansoddi ein traffig. Penderfynwch a ydych chi'n barod i dderbyn cwcis o'n gwefan.
English

Lansio Gêm Codau 2016

Cyhoeddwyd: 03 October 2016

Gêm Codau Technocamps Her Arwyr Cynnwrf Cyfrifiadureg 2016

Mae Technocamps yn cynnal Her Raglennu Genedlaethol ar gyfer Cymru gyfan.  Bydd y gystadleuaeth yn galluogi'r disgyblion hynny sydd â diddordeb i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a gwaith tîm, yn ogystal â gwella eu gwybodaeth am raglennu cyfrifiadurol, a hynny mewn ffordd hwyliog ac arloesol.

Yr her yw creu darn o feddalwedd, gan ddefnyddio "Arwyr Gwyddoniaeth" fel thema.  Gallwch ganolbwyntio ar astudio arwyr ffuglennol (e.e. Superman, Wonder Woman, Spiderman, ac ati), neu ar unrhyw agwedd ar wyddoniaeth neu ar arwyr gwyddoniaeth bywyd go iawn (gallai hyn gynnwys gwyddonwyr tebyg i Ada Lovelace, Mark Zuckerberg, Tim Berners-Lee neu Alan Turing – cyfrifiadurwyr, Albert Einstein – ffisegydd, Marie Curie – cemegydd, Stephen Hawking – ffisegydd ac astrolegwr, ac ati).

Mae'n rhaid bod gan eich meddalwedd ddyluniad gwreiddiol, a gall fod ar ffurf gêm, gwefan, ap, cwis, neu animeiddiad.  Gallwch ddefnyddio unrhyw iaith godio i greu'r feddalwedd, er enghraifft Scratch, Python, Greenfoot, Visual Basic, App Inventor neu HTML, ac ati, a gallwch hefyd wneud defnydd o unrhyw gyfrifiadur Raspberry Pi, BBC Micro:bit neu git Arduino a allai fod yn eich ysgol.

Yn ystod y cyfnod cyn y gystadleuaeth, gall grwpiau yn eich dosbarth yn yr ysgol, disgyblion o'ch ysgol gynradd leol, neu eich Technoclub cyfan gyfrannu at ddatblygu eich meddalwedd.  Fodd bynnag, ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth, bydd angen i chi enwebu tîm sy'n cynnwys rhwng dau a chwech o bobl o'r ysgol a fydd yn gallu mynd i'r rownd derfynol a'r diwrnod gwobrwyo.  Mae'n bwysig bod y grŵp hwn o allu cymysg. 

Am unrhyw gyngor, cwestiynau neu gefnogaeth o ran Gêm Codau Technocamps – Her Arwyr Cynnwrf Cyfrifiadureg, mae croeso i chi gysylltu â Kate Stevens – Cydgysylltydd Prosiect Rhanbarthol.

 Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein Pecyn Gwybodaeth am Ysgolion 

Y newyddion diweddaraf

Trwy gymryd rhan yn y rhaglen hon, bydd Athro yn ennill cydnabyddiaeth Technocamps fel 'Athro Ardystiedig Technocamps', neu gall Ysgol gyflawni statws 'Ysgol Ardystiedig Technocamps' ar lefel Efydd, Arian, neu Aur.

Pan benderfynodd Ben Dodd ymuno â rhai ffrindiau mewn Clwb Roboteg amser cinio pan oedd yn yr ysgol uwchradd, ychydig a wyddai mai dyma fyddai dechrau ei daith ar yrfa mewn Cyfrifiadureg.

Graddiodd Robert o Brifysgol Caerdydd, ac ysbrydolwyd ei yrfa mewn cyfrifiadureg gan weithdy Technocamps wythnos o hyd yr oedd wedi mynd iddo tra roedd yn yr ysgol.

Rydym wedi agor y porth yr oeddem wedi'i datblygu ar gyfer rhaglen yr Haf, ac mae'r adnoddau a ddatblygwyd gennym fel tîm ar gael i chi eu defnyddio a'u rhannu.

Dewch yn Rhan

Oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu gweithdy Technocamps ar gyfer eich ysgol neu goleg? Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithdai yn seiliedig ar feddwl cyfrifiannol i gefnogi myfyrwyr a staff trwy CA2 i CA5. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Cysylltu â'r Tîm
Mae'r prif bartner, Prifysgol Abertawe, yn elusen gofrestredig. Rhif. 1138342