Digwyddiadau'r Hanner Tymor GiST Cymru – Ysbrydoli Merched i ymddiddori mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Technocamps yn ysbrydoli menywod ifanc i ymgymryd â gyrfaoedd ym maes STEM trwy gynnal gweithdai yn ystod yr hanner tymor yng Ngogledd a De Cymru..

Oddi ar lansiad GiSTCymru ym Mhrifysgol De Cymru y llynedd, mae Technocamps wedi cynllunio a darparu amrywiaeth o weithgareddau i hyrwyddo gyrfaoedd ym maes STEM ar gyfer merched. Cynhaliwyd y sesiwn ddiwethaf yn ystod gwyliau hanner tymor y gwanwyn, a hynny yn ein canolfannau rhanbarthol ym Mhrifysgol Bangor a Threfforest yng nghymoedd De Cymru. Daeth grwpiau o ferched o ysgolion uwchradd lleol i'r ddwy ganolfan, gan gymryd rhan mewn gweithdai a gweithgareddau a ddarparwyd ar y cyd â phartneriaid o ddiwydiannau lleol.

Ym Mhrifysgol Bangor, daeth 25 o fyfyrwyr rhwng 11 ac 14 mlwydd oed i ymweld â'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig. Thema'r digwyddiad oedd "Pa fath o wyddonydd y gallwn fod?"

Cynhaliodd Swyddog Cyflawni Technocamps, Dr Mollie Duggan-Edwards, weithdy 'Gêm yr Ymennydd', lle bu'r merched yn gweithio mewn timau i fynd i'r afael â nifer o heriau datrys problemau. Yn dilyn hyn, a gyda chymorth gan Dr Peter Lawrence a Dr Paula de la Barra o'r Ysgol Gwyddorau Eigion, defnyddiodd y merched bensetiau rhith-wirionedd i asesu cymhlethdod arwynebau morgloddiau a deall sut y maent yn effeithio ar strwythurau ecosystemau. Rhoddodd Megan Owen, Gwyddonydd Niwclear, gyflwyniad i'r merched am electroneg, a hynny mewn gweithdy roboteg rhyngweithiol iawn.

Cafodd y merched gyfle i hedfan a chodio dronau bach er mwyn cwblhau cwrs rhwystrau a gynlluniwyd ymlaen llaw. Cyflwynodd Airbus sesiwn yn ymwneud â chynllunio caban i sicrhau'r proffidioldeb gorau i'r cwmni hedfan, ac roedd sesiwn Michelle Symonds, ar ran Nwy Prydain, yn canolbwyntio ar anghenion 'ynni'r dyfodol'.

Yn y cyfamser, treuliodd ddisgyblion o ysgolion lleol y cymoedd amser gyda'r tîm Technocamps ym Mhrifysgol De Cymru, gan weithio ar nifer o brosiectau gwahanol yn ymwneud â thechnoleg. Roedd y rhain yn cynnwys llunio cwis ar Python a dylunio gemau gan ddefnyddio technoleg Mircro:bit. Unwaith eto, llwyddodd Nwy Prydain i gyflwyno gweithdy ar ynni, gyda'r grwpiau'n dyfeisio syniadau ar gyfer balwnau aer poeth a allai gael eu pweru gan fio-nwy a system dyrbin y gellid ei gosod mewn pibau dŵr yn eich tŷ i greu trydan o ddŵr sy'n llifo.

Dywedodd Charlotte, un o'r disgyblion, ei bod wedi mwynhau'r sesiwn hon yn fawr iawn:

“Fy hoff weithgaredd oedd codio gyda Python i greu cwis. Dysgais sut y mae defnyddio Python yn iawn a sut y mae dadfygio'n well. Rwyf wedi mwynhau fy mhrofiad gyda Technocampas yn fawr iawn, a byddwn yn ei argymell i bobl eraill. Rwy'n ysu am gael dychwelyd!”

Daeth y sesiynau i ben trwy gynnal digwyddiad arddangos, lle gwahoddwyd teuluoedd y cyfranogwyr i gwrdd â'r tîm a gweld cynnydd anhygoel eu plant.

“Roeddem wedi mwynhau cael ein gwahodd i'r digwyddiad Gwobrwyo ar gyfer rhieni yn fawr iawn. Roedd gweld codio ar waith yn wych. Roedd y balchder ar wynebau pob un o'r merched yn amlwg, a hynny wrth iddynt rannu eu gwaith â chyffro. Dyma brosiect gwych, sy'n helpu merched i weld bod codio a swyddi ym maes technoleg yn ddewisiadau gyrfa, a'u bod hefyd yn hwyl." 

Andrew, Rhiant GiST Cymru.

Mae Technocamps yn falch iawn o'r gwaith y mae'n ei wneud, yn enwedig wrth annog merched ifanc i ymgymryd â phynciau STEM a gyrfaoedd yn y maes hwnnw. Mae'r rhaglen GiSTCymru wedi'i chynllunio i wneud hynny'n bosibl. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal rhagor o weithgareddau a digwyddiadau GiSTCymru yn y dyfodol.