Mae Angen Diwygiad Sylfaenol ar Gymwysterau TGCh, Meddai'r Rheoleiddiwr

adminNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Mae cymwysterau TGCh a ddefnyddir mewn ysgolion a cholegau addysg bellach yn hen ac mae angen diwygiad sylfaenol arnynt.

Dyna'r casgliad a gyrhaeddodd reolydd Cymwysterau Cymru, sy'n argymell ail-ddylunio cymwysterau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yng Nghymru.

Darganfu'r adolygiad nad yw cymwysterau TGCh wedi datblygu ar yr un cyflymder a’r sector digidol. Mae'n argymell datblygu cymwysterau TGAU a Thechnoleg Ddigidol TGAU newydd.

Datgelodd hefyd fod llawer o'r cynnwys a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn cymwysterau yn hen, mae diffyg arian yn golygu bod rhai ysgolion a cholegau ddim yn gallu fforddio'r offer TG diweddaraf, ac yn aml nid yw’r pwnc yn yn cael ei addysgu gan arbenigwyr sy'n achosi trafferthion i’r athrawon i gadw i fyny gyda newidiadau mewn technoleg.

Mae adroddiad Cymwysterau Cymru, 'Digidol I’r Dyfodol', yn derfynu adolygiad 18-mis o gymwysterau yn y sector TGCh yng Nghymru.

"Cynhaliwyd 150 o gyfweliadau gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys bron i 60 o gyflogwyr yn gweithio yn y sector," meddai Gareth Downey, Uwch Reolwr Cymwysterau Galwedigaethol. "Fe wnaethom hefyd ystyried barn mwy na 1,000 o ddysgwyr i lywio ein canfyddiadau."

Gareth Downey

Darganfu'r adolygiad:

  • • mae cymwysterau eisioes yn hen, rhyw ddegawd y tu ôl i'r datblygiadau digidol diweddaraf;
  • • bod asesiadau yn aml yn cael eu ystyried yn amherthnasol gyda thystiolaeth ysgrifenedig a sgrinluniau y ffyrdd fwyaf cyffredin o asesu sgiliau digidol pobl ifanc;
  • • mae llawer o ysgolion a cholegau'n defnyddio offer TG hen ac wedi dweud na allant fforddio'r offer diweddaraf oherwydd diffyg arian;
  • • Nid yw TGCh yn cael ei flaenoriaethu mewn rhai ysgolion, gyda nifer uchel sydd ddim yn arbenigwyr yn addysgu'r pwnc.

"Mae bron yn amhosibl cynnal ein bywydau beunyddiol heb gael gafael ar wybodaeth ddigidol mewn un ffurf neu'r llall, o archebu'r siopa wythnosol i archebu gwyliau neu ymgeisio am swydd,"

Gareth Downey

"Eto, nid yw'r cymwysterau sydd ar gael ar gyfer y genhedlaeth ddigidol wedi cadw at ddatblygiadau technolegol, ac o ganlyniad maent wedi dod yn hen-ffasiwn."

"Mae tasgau digidol fel defnyddio pecynnau meddalwedd, anfon negeseuon e-bost, a chael gafael ar wybodaeth ar y rhyngrwyd bellach yn rhan o'r bywyd bob dydd."

"Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc eisoes yn meddu ar y sgiliau hyn cyn iddynt ddechrau astudio'r cymwysterau cyfredol, felly nid yw'r pynciau hyn yn diddorol nac yn heriol i bobl ifanc."

Gareth Dawney

Mae'r adroddiad 'Digidol I’r Dyfodol' yn argymell:

  • • datblygu cymwysterau TGAU a Thechnoleg Ddigidol TGAU newydd;
  • • sicrhau bod y cymwysterau newydd a ddatblygwyd i'w defnyddio yn y lefelau T Llwybr Digidol yn Lloegr ar gael i'w cymryd gan ddysgwyr yng Nghymru;
  • • adolygu unrhyw gymwysterau sy'n gysylltiedig â TGCh a gyflwynir gan gyrff dyfarnu i sicrhau eu bod yn gyfoes ac yn berthnasol;
  • • monitro cymwysterau TGCh galwedigaethol newydd a ddefnyddir mewn fframweithiau prentisiaeth.

"Rydym wedi nodi mesurau tymor byr a fydd yn mynd i'r afael â'r materion uniongyrchol yr ydym wedi'u datgelu, ynghyd â chynllun tymor hwy i ddatblygu cymwysterau Technoleg Ddigidol newydd sy'n addas ar gyfer y genhedlaeth ddigidol,"

meddai Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Cymwysterau Galwedigaethol.

"Byddwn yn gweithredu mewn dau gam. Yn gyntaf, byddwn yn mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn ystod ein hadolygiad sector er mwyn gwella'r cymwysterau cyfredol."

"Bydd yr ail gam yn edrych ar ddatblygu cymwysterau Technoleg Ddigidol newydd sy'n denu diddordeb phobl ifanc ac yn adlewyrchu'r byd digidol sy'n symud yn gyflym."

"Bydd ein hargymhellion, ynghyd â gwell hyfforddiant athrawon, yn mynd i'r afael â'r materion hyn ac yn helpu i gau'r bwlch sgiliau digidol a nodwyd gan gyflogwyr yng Nghymru."

Tom Crick

Mae’r rhanddeiliaid a ymgynghorwyd â nhw yn ystod paratoi'r adroddiad wedi croesawu ei argymhellion.

Meddai'r Athro Faron Moller o Brifysgol Abertawe:

"Mae'r rhaglen Technocamps ledled Cymru wedi bod yn gweithio ers 2003 i wella cyflwr TGCh ac addysg gyfrifiadurol yng Nghymru. Bu'n arbennig o lwyddiannus wrth fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhywiol difrifol yn y gweithlu digidol o gofio bod TGCh a chyfrifiadureg yn parhau i fod yn ddewisiadau pynciol anneniadol i ferched."

Faron Moller

 "Mae cymwysterau newydd mewn Technoleg Ddigidol sy'n mynd i'r afael yn benodol â'r gwyddorau technegol, cymdeithasol ac economaidd y tu ôl i'r dyfeisiau y mae pobl ifanc yn eu rhyngweithio'n barhaus yn amserol iawn a byddant, heb os, yn boblogaidd i sbectrwm eang o bobl ifanc."

Faron Moller

Gallwch ddarllen yr adroddiad cyfan yma: https://www.technocamps.com/storage/app/media/uploaded-files/ITCreview2018W.pdf ITC review 2018 E.pdf