Dysgu gyda Lego yn ystod y Cyfyngiadau Symud

adminBlog

Cafodd Cydlynydd ein Hwb Bangor, Alex Clewett, haf cynhyrchiol iawn gyda'r cyfyngiadau symud. Yma, mae'n trafod ei brofiad gyda set SPIKE Prime Addysg Lego, a sut wnaeth e ddylunio, adeiladu a chodio reid carnifal ei hunain (gyda'i blant)...

Yn ôl ym mis Mai, wrth i mi straffaglu i jyglo addysgu fy nhair merch gartref a gweithio fel Cydlynydd Rhanbarthol Technocamps ym Mhrifysgol Bangor, glaniodd neges e-bost yn fy mewnflwch a ddaliodd fy llygad. Roedd yn dweud ‘Sut yr hoffech gael eich dwylo ar set LEGO Education SPIKE Prime AM DDIM?' Roedd yn benderfyniad hawdd, atebais yn syth a chyn bo hir ymddangosodd y fan DPD y tu allan gyda fy set newydd. Gan weld hyn fel cyfle i gyfuno addysgu gartref â'm gwaith, es ati i redeg fy ngweithdy Technocamps fy hun gyda fy merched. Ar ôl rhai sesiynau hyfforddi ar-lein gyda Neil Taylor o Creative Hut, roeddwn yn teimlo'n barod i greu rhai o fy nyfeisiadau fy hun. Roeddwn hefyd yn meddwl efallai y byddwn yn gadael i'm plant roi cynnig arni.

Mae gan Lego SPIKE Prime y gallu i ddarllen data tywydd byw o'r rhyngrwyd – rhywbeth newydd sbon i gynnyrch rhaglenadwy Lego Education. Arweiniodd hyn fi at y syniad o adeiladu 'Tŷ Tywydd,' wedi'i ysbrydoli'n rhannol gan ddechrau'r rhaglen 'Trumpton' (roedd yn wych tyfu i fyny yn y 1970au).

Yn fuan ar ôl i'r treial ddechrau, penderfynodd Creative Hut roi ychydig yn fwy yn y fantol trwy gynnal cystadleuaeth. Y syniad oedd creu adeiladwaith ar gyfer gêm neu reid mewn ffair, byddai'r enillydd yn cael pecyn ehangu. Roedd fy nhîm yn barod am her, felly aethom ati i ddylunio, adeiladu a chodio rhai o'n creadigaethau carnifal ein hunain. Dechreuom yn syml gyda rhai reidiau ceffylau bach, ond yn fuan daethom yn fwy anturus. Ar ôl ychydig o iteriadau gwahanol, crëwyd ein dyluniad ar gyfer ein 'Twr Taranllyd' a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth.

Rhoddais gynnig hefyd ar rai o'r adeiladweithiau o'r adnoddau rhagorol y mae Lego Education wedi'u rhoi at ei gilydd, gan gynnwys breichiau prosthetig, sêff gyfunrhif, mesurydd glawiad, a'r sail yrru a ddyluniwyd ar gyfer cymryd rhan yng nghystadlaethau Cynghrair First Lego. Mae'r adnoddau newydd hyn wedi'u hadeiladu o amgylch nifer o themâu perthnasol, mewn cyd-destun, ac maent o ansawdd uchel iawn. Yr ychwanegiad diweddaraf at yr adnoddau hyn yw uned cofnodi data yn seiliedig ar olrhain hyfforddiant ffitrwydd – rhywbeth y gall pobl ifanc uniaethu ag ef ac y gellir ei gymhwyso'n hawdd ledled y cwricwlwm, nid dim ond ar gyfer STEM neu Gyfrifiadureg. Rwy’n siŵr y bydd adnoddau a rhaglenni eraill, sydd yr un mor ddeniadol, yn dod i’r amlwg wrth i’r cynnyrch ddatblygu.

Mae'n ymddangos bod gan y cynnyrch newydd hwn lawer o nodweddion newydd wedi'u cynllunio i'w wneud yn well ar gyfer Cynghrair First Lego, er enghraifft gyrosgop mewnosodedig ac amgylchedd rhaglennu mwy hygyrch yn seiliedig ar Scratch. Hefyd, yn wahanol i gynnyrch blaenorol fel EV3, mae rhaglen SPIKE Prime yn cynnwys y gallu i raglennu gan ddefnyddio Python heb unrhyw ffurfweddiad ychwanegol. Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi tîm at ei gilydd ar gyfer Cynghrair First Lego ac nad oes gennych gitiau roboteg Lego fel EV3 eisoes, yna gallai SPIKE Prime fod yn ddarn da o git i chi gael dechrau arni.

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi cynnig ar SPIKE Prime yn eich ysgol, mae Creative Hut yn dal i gynnig citiau i chi eu treialu. Anfonwch neges e-bost at neil@creative-hut.com i gael gwybod rhagor neu edrychwch ar y manylion ar ei wefan. website.

Mae Technocamps wedi defnyddio cynnyrch roboteg Lego gydag ysgolion ers amser maith, ac mae ganddo lawer iawn o brofiad o ran eu cymhwysiad. Rydym wedi buddsoddi cryn dipyn yn y citiau SPIKE Prime newydd, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddechrau eu defnyddio mewn ysgolion gyda dysgwyr – pan fydd yr amgylchiadau'n caniatáu hynny wrth gwrs.