Gweithio mewn partneriaeth gyda Rhwydwaith Seren i greu sêr technoleg y dyfodol

adminNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Seren Network at Technocamps HQ / Swansea University

Yn ddiweddar, mae’r prosiect wedi ymuno â Rhwydwaith Seren i helpu i annog ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o sêr technolegol.

Nod Rhwydwaith Seren (Sylfaen) ledled Cymru yw ymestyn a herio pobl ifanc, gan godi eu dyheadau gyrfa a rhoi cyfleoedd iddynt symud ymlaen waeth beth fo’u cefndir ariannol. Mae Seren yn gweithio gyda disgyblion oed uwchradd, gan eu helpu i weld dyfodol iddyn nhw eu hunain y tu hwnt i’w hamgylchiadau unigol, teulu ac ariannol.

Mae Technocamps yn gweithio’n agos gyda’r rhwydwaith yn Ne Cymru gan ddarparu gweithdai a dosbarthiadau meistr STEM ar benwythnosau ac mewn sesiynau ar ôl ysgol. Er bod hon yn fenter gymharol newydd, rydym eisoes wedi ‘graddio’ ein carfan gyntaf o ysgolion Castell-nedd a Phort Talbot, i’w dilyn yn agos gan grŵp o ysgolion Abertawe ar ddechrau Gwanwyn 2020.

Mae’r sesiynau wir wedi ymestyn y disgyblion mwyaf galluog a thalentog. Fe’u dyluniwyd i wella eu dealltwriaeth o sut mae cyfrifiadureg yn sail i lawer o’r pethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol mewn bywydau bob dydd. Mae wedi bod yn arbennig o braf gweld llawer o’r disgyblion yn ymgymryd â’r her o waith estynedig a osodwyd gan ein Swyddogion Cyflenwi, i wella eu gwybodaeth a’u dealltwri- aeth y tu hwnt i’r amgylchedd yn yr ystafell ddosbarth.

"Roedd y sesiwn yn ddiddorol iawn a dysgais am bethau nad oeddwn yn gwybod eu bod yn bodoli. Byddaf yn bendant yn dysgu ein merch ieuengaf am godio a pham ei fod mor bwysig.”

Rhiant, Rhaglen Sylfaen Seren Castell-nedd Port Talbot 2019