Pythefnos STEM

adminDigwyddiad, Newyddion

Ymunwch â ni am ddau weithdy rhithwir rhad ac am ddim sy'n canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy!

Rhwng 18-29ain Ionawr, rydyn ni'n cynnig gweithdai STEM rhad ac am ddim i ysgolion yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar Beirianneg a Chyfrifiadureg. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal trwy Teams a bydd yr offer sydd ei angen yn cael ei anfon at yr ysgol cyn y sesiwn. Gyd sydd angen arnoch chi yw taflunydd, seinyddion, meicroffon a gwe-gamera i gymryd rhan.

Rhaid bwcio dau weithdy yn ystod y pythefnos: 1 x 1awr o hyd AC 1 x 1awr 40munud o hyd. Gellir trefnu gweithdai ar unrhyw adeg i weddu i'ch amserlen a byddant yn seiliedig ar STEM. Mae'r gweithdai ar gael yn Saesneg neu Gymraeg.

Mae Pythefnos STEM yn rhaglen ar y cyd gan Technocamps ac EESW ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.

Tyrbinau Gwynt yng Nghymru
Hyd: 1 awr, 40 munud (o fewn 2 wers)
Bydd y sesiwn hwn yn canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy yng Nghymru gan gynnwys heriau a thyrbinau gwynt ar y tir ac ar y môr. Byddwn yn dysgu sut mae tyrbinau gwynt yn gweithio ac am y bobl tu ôl i'r Beirianneg. Bydd timau wedyn yn defnyddio cit adeiladu syml i greu tyrbinau gwynt sy'n gweithio, cyfrifo grym yn Watts gan ddefnyddio mesuriadau folt ac amp a gwella'u dyluniadau i gynyddu'r grym.

Byddwn yn creu cystadleuaeth o dyrbinau gwynt y timau gan gofnodi faint o ynni sy'n cael ei greu. A allwch chi gyrraedd top ein bwrdd o arweinwyr?

Creu a Modeli Ynni Adnewyddadwy
Hyd: 1 awr
Yn y sesiwn hon, bydd disgyblion yn darganfod sut mae ynni yn cael ei gynhyrchu o ronynnau gwynt a sut i ddatblygu model cyfrifiadol o'r ymadwaith hwn. Bydd y disgyblion yn dysgu am hanfodion codio a sut i weithio fel tîm o beirianwyr i ddatblygu arbrawf tyrbin gwynt eu hunain.