Dydd Sul o Wyddoniaeth Wych yn dod i Abertawe

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Roedd cael gwahoddiad i gymryd rhan yn nigwyddiad Dydd Sul o Wyddoniaeth Wych, a drefnwyd gan brosiect Oriel Wyddoniaeth Prifysgol Abertawe, yn fraint i Technocamps, a hynny yn rhan o Wythnos Gwyddoniaeth Prydain 2019. Yn rhan o'r digwyddiad, a gynhaliwyd yn lleoliad gwych Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, roedd cyfle i'r ymwelwyr fanteisio ar amrywiaeth eang o arddangosfeydd gwyddoniaeth rhyngweithiol, ynghyd ag archwilio gwaith ymchwil cyfredol, a hynny trwy gyfrwng sgyrsiau gan siaradwyr gwadd trwy gydol y diwrnod. Roedd yn ddigwyddiad rhagorol, a oedd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau STEM gwahanol i'w gweld a'u gwneud, a hynny'n benodol ar gyfer plant a theuluoedd.

Roedd Luke Clements, Swyddog Cyflawni Technocamps, a oedd wrth law trwy gydol y dydd i gynrychioli'r rhaglen, yn falch bod y digwyddiad wedi denu mwy na 3,000 o ymwelwyr yn ystod y diwrnod.

“Mae'n bleser bob amser gweld y cyffro ar wynebau cymaint o bobl ifanc wrth iddynt lwyddo i ddatrys y posau a rhaglennu'r robotiaid i gwblhau'r tasgau. Roedd ein robot BB-8 Sphero yn ffefryn mawr gan y dorf!”

Luke Clements

Llwyddodd y tîm i arddangos ei dechnoleg roboteg o'r radd flaenaf, a hynny ar y cyd ag arddangosiadau ymarferol o rai o'r rhaglenni y mae Technocamps yn ei chynnig i ysgolion a phobl ifanc ledled Cymru.

Roedd y Model Rheilffordd hefyd yn cael ei arddangos, sy'n cynnig profiad hwyliog a rhyngweithiol i arddangos y gwaith ymchwil arloesol sy'n cael ei wneud gan Grŵp Gwirio Rheilffyrdd Abertawe, prosiect a gefnogir gan Technocamps. Bydd hwn yn cael ei arddangos nesaf yn ystod Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ym mis Tachwedd 2019.