English

Technocamps Game of Codes - Cystadleuaeth 2019 - Dinasoedd Clyfar

Cyhoeddwyd: 13 December 2018

Mae Game of Codes yn ôl unwaith eto fel cystadleuaeth rhaglennu traws-Cymru Technocamps.  Bydd y cystadleuaeth yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a chydweithio, yn ogystal â gwella eu gwybodaeth am gyfrifiadureg mewn ffordd hwylus a dyfeisgar.

Yr her yw i greu darn o feddalwedd gan ddefnyddio Dinasoedd Clyfar fel thema.

Bydd rhaid i ddyluniad eich meddalwedd fod yn wreiddiol ac ar ffurf naill ai gêm, gwefan, ap, cwis, neu animeiddiad. Gellir dewis unrhyw iaith rhaglennu e.e. Scratch, Python, Greenfoot, Visual Basic, App Inventor neu HTML ayyb. a gallech ddefnyddio unrhyw Raspberry Pis, BBC Micro:bits neu citiau Arduino sydd gennych yn eich ysgol.

I weld y pecyn gwybodaeth ar gyfer y cystadleuaeth 2019, gwasgwch y cyswllt isod:

GameofCodes_Competition_2019_Information_Leaflet_Welsh.pdf

Fersiwn Saesneg:

GameofCodes_Competition_2019_Information_Leaflet.pdf


Y newyddion diweddaraf

Technocamps a Theatr na nÓg yn dychwelyd adref o Hong Kong ar ôl ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf yn ystod Gŵyl SPARK, a drefnwyd gan y British Council.

Mae dathliad blynyddol Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ITWales yn rhoi cipolwg o'r amrediad amrywiol o gyfleoedd sydd ar gael o ran busnes a gyrfaoedd i fenywod yn yr 21ain Ganrif.

Mae cymwysterau TGCh a ddefnyddir mewn ysgolion a cholegau addysg bellach yn hen ac mae angen diwygiad sylfaenol arnynt.

Dewch yn Rhan

Oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu gweithdy Technocamps ar gyfer eich ysgol neu goleg? Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithdai yn seiliedig ar feddwl cyfrifiannol i gefnogi myfyrwyr a staff trwy CA2 i CA5. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Cysylltu â'r Tîm