Technocamps ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr STEM Cymru

adminGwobrau, Newyddion a Digwyddiadau

Mae Technocamps wedi cael cydnabyddiaeth am y gwaith y mae'n ei wneud ledled Cymru trwy gyrraedd y rhestr fer yn y Gwobrau STEM Cymru cyntaf.

Mae Technocamps yn rhaglen allgymorth i ysgolion, cymunedau a diwydiant ledled Cymru. Mae wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae ganddi hybiau ym mhob prifysgol ledled Cymru. Mae'n fraint cael bod ymhlith 42 o gwmnïau, prosiectau ac unigolion arloesol i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau eleni, gwobrau y mae yna ddisgwyl eiddgar amdanynt. Mae'r gwobrau hyn yn dathlu'r rhai sy'n hyrwyddo ac yn gwneud gwahaniaeth i STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yng Nghymru.

Mae Technocamps wedi cyrraedd rhestr fer y categori Rhaglen Addysgol y Flwyddyn STEM, lle'r oedd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o fenter a oedd naill ai: yn mynd i'r afael â'r bwlch amrywiaeth yn y pynciau STEM; yn mynd i'r afael â'r prinder sgiliau; neu'n ceisio ysbrydoli a meithrin dyheadau'r genhedlaeth nesaf. Cydnabyddir bod Technocamps yn rhagorol ym mhob un o'r tri maen prawf hyn.

Mae gweithgarwch traddodiadol Technocamps yn canolbwyntio ar ddarparu gweithdai ymarferol ar gyfer Ysgolion Uwchradd er mwyn annog disgyblion i astudio pynciau cyfrifiadurol a phynciau STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch, a thu hwnt. Mae ei raglen Cyfrifiadura Maes Chwarae yn gweithio gydag Ysgolion Cynradd er mwyn gwrthsefyll y broblem gydnabyddedig mewn perthynas â grwpiau penodol o bobl ifanc – yn enwedig merched – sy'n ymddieithrio oddi wrth bynciau STEM yn y cyfnod pontio rhwng y Cynradd a'r Uwchradd.


Mae ei raglen Technoteach yn darparu datblygiad proffesiynol a hyfforddiant mawr eu hangen ar gyfer athrawon sy'n gyfrifol am gyflwyno'r cwricwlwm cyfrifiadurol newydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried nad oes gan 75% o athrawon TGCh y wlad unrhyw hyfforddiant ffurfiol mewn TGCh, heb sôn am y pwnc gwyddonol, cyfrifiadura, y gofynnir iddynt ei gyflwyno gyda'r cwricwlwm newydd.

Yn olaf, mae'r Sefydliad Codio yng Nghymru yn cynrychioli cangen ddiwydiannol Technocamps, sy'n darparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol i fusnesau'r genedl. Yn benodol, mae Technocamps wedi arwain y ffordd o ran darparu prentisiaethau gradd digidol, a bu'n gyfrifol am y cohort cyntaf (a'r unig un hyd yma) o fyfyrwyr Gradd-brentisiaeth i raddio yng Nghymru, a hynny yn 2019.

Bydd pawb ar y rhestr fer 'nawr yn cael eu hystyried gan banel o feddylwyr entrepreneuraidd o Gymru, sydd ar flaen y gad mewn diwydiant, a bydd enillydd pob un o'r 15 o gategorïau yn cael ei gyhoeddi yn y seremoni wobrwyo yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ar 1 Mai.

Dywedodd y prif feirniad, Louise Bright, sylfaenydd y rhwydwaith Menywod mewn STEM Cymru: 

“Mae nifer y ceisiadau wedi ein llorio. Rydym wir yn teimlo bod ein rhestr fer yn cynrychioli rhai o'r sefydliadau a'r unigolion mwyaf blaengar yng Nghymru o ran eu bod ar flaen y gad yn arloesi yn y pynciau STEM.”

Dywedodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps:

“Rydym yn wirioneddol wrth ein bodd ein bod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon. Mae cael ein hystyried ochr yn ochr â rhai o'r mentrau mwyaf anhygoel yn y wlad yn gwneud i ni deimlo'n ostyngedig iawn, ac rydym yn falch iawn o gael y gydnabyddiaeth am y gwaith caled yr ydym yn ei wneud.”