GiST

Cydnabyddir yn eang bod menywod yn cael eu tangynrychioli mewn diwydiannau STEM, a'n nod yw unioni'r cydbwysedd. Rydym bellach yn cynnig clybiau a seminarau, i ferched yn unig, trwy ein rhaglen GiST Cymru. Trwy hyn, rydym yn gobeithio cyrraedd merched nad ydynt wedi ystyried STEM fel opsiwn o'r blaen, a'u hannog tuag at yrfaoedd mewn STEM.

Cyflwynir pob gweithdy gan fenywod sy'n beirianwyr a gwyddonwyr, ac maent yn arddangos y cyfleoedd sy'n agored i Fenywod ym maes STEM.

Rydym yn cydweithredu â nifer o bartneriaid allanol er mwyn sicrhau bod cynllun GiST Cymru yn amrywiol o ran cynnwys ac yn cynnig cyfle i’r cyfranogwyr brofi ac archwilio pynciau STEM mewn ffordd hwyliog a diddorol. Rydym yn hynod o ddiolchgar i'n partneriaid GiST Cymru sy'n cynnwys: Chwarae Teg, British Gas, British Airways, Amgueddfa Cymru, Science Made Simple, ESTnet, GIG Cymru, a'r NDEC.

Image