Busnes


Rydym yn gweithio gyda busnesau a diwydiant i greu cyfleoedd i sicrhau bod y biblinell ddigidol yn cael ei chynhyrchu'n lleol, gan helpu i ddarparu swyddi o ansawdd uchel a chefnogi economi Cymru.

Mae uwchsgilio digidol ledled Cymru yn hanfodol ar gyfer economi'r dyfodol. Trwy weithio gyda ni, gallwch helpu i sicrhau bod eich piblinell dalent yn iach a bod ein heconomi yn ffynnu.

Bwtcamps Sgiliau'r
Sefydliad Codio


Rydym yn cynnal nifer o gyrsiau sgiliau rhaglennu sy'n rhad ac am ddim i ddysgwyr a byddant yn eich helpu i adeiladu eich sgiliau technoleg. Rydym yn gweithio gyda phob prifysgol yng Nghymru a'r Brifysgol Agored i ddarparu'rsgiliau hyn yn rhithwir ac yn gorfforol.

Dyluniwyd y cyrsiau datblygu hyn i'ch helpu adeiladu sgiliau a gwybodaeth â gofyn cyson i'ch helpu eich cynnydd.


Rhagor o wybodaeth

Rydym yn gweithio gyda chwmnïau ledled Cymru, gan gynnwys y DVLA, Go Compare, Admiral, Sefydliad Codio a busnesau llai, i ddarparu ein BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol. Mae hon yn rhaglen Gradd-brentisiaeth a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cefnogi cwmnïau ac unigolion i uwchsgilio'r gweithlu tra byddant mewn cyflogaeth, a sicrhau bod sgiliau staff yn gyfredol ac yn berthnasol.

Anfonwch neges e-bost at Maria, ein Swyddog Cyswllt Busnes, ar m.moller@swansea.ac.uk i weld sut y gallwn eich cefnogi.

Gradd-brentisiaethau

Ein
Partneriaid


Rydym yn gweithio'n agos gyda llawer o sefydliadau mawr a bach, ac mae rhai hyd yn oed yn ein cefnogi trwy ein Grŵp Llywio. Ar hyn o bryd mae'r rhain yn cynnwys TATA Steel, Theatr na nÓg, First UK a'r Sefydliad Yellowsands.

Byddem wrth ein bodd yn gweithio gyda chi! Cysylltwch â ni os hoffech weld sut y gallwn weithio gyda'n gilydd.


Rydyn ni bob amser yn ceisio cefnogi llwybrau gyrfa i bobl ifanc, ac rydym am bontio'r bwlch rhwng pynciau a gyrfaoedd.

Yn benodol, rydym yn awyddus i gefnogi menywod ifanc i mewn i yrfaoedd STEM trwy gyflwyno modelau rôl sydd eisoes wedi symud ymlaen â'u gyrfa mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg neu Fathemateg.

Mae ein Modelau Rôl yn annog ein cynulleidfaoedd iau i ystyried gyrfa mewn STEM trwy ddarparu mewnwelediad i'w gweithleoedd.

Modelau
Rôl

Rhwydwaith Menywod


Nod ein rhwydwaith WiST yw sefydlu cysylltiadau rhwng menywod sy'n gweithio yn y sector (technoleg yn benodol) trwy ddigwyddiadau rheolaidd i ddysgu o brofiad ei gilydd yn y gweithle, a chefnogi ac ysbrydoli'r rheiny sydd ar lwybr gyrfa cynnar.

Rydym yn annog aelodau i gymryd rhan yn y prosiect, ac rydym yn cynnig cyfleoedd i unigolion, cwmnïau a sefydliadau eraill ymgysylltu â phobl ifanc trwy ddatblygu rhwydwaith cryf o fodelau rôl i gefnogi'r gwaith yr ydym yn ei wneud mewn ysgolion.