Bŵtcamp NextGenAI

Dydd Llun 16eg Chwefror – Dydd Gwener 27ain Mawrth 2026

Adeilad Margam, Campws Singleton Prifysgol Abertawe
Amser llawn: Dydd Llun - Dydd Gwener, 9am - 5pm


Image
Image
Image


Wedi graddio o Brifysgol Abertawe ond ei chael hi’n anodd sefydlu eich hun yn y farchnad swyddi? Yn chwilfrydig am AI ac offer digidol ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Yn awyddus i ddatblygu sgiliau ymchwil gwerthfawr? Efallai mai hwn yw'r cyfle rydych chi wedi bod yn aros amdano.

Mae NextGenAI yn bŵtcamp dwys chwe wythnos o hyd a fydd yn addysgu sgiliau ymarferol y mae galw mawr amdanynt mewn AI a rhaglennu - does dim angen cefndir technegol. Does dim ots beth oedd pwnc eich gradd - hanes, bioleg, busnes neu unrhyw beth arall - bydd y bŵtcamp hwn yn rhoi i chi'r wybodaeth a'r hyder i achub ar gyfleoedd gyrfa newydd mewn sector sy'n tyfu'n gyflym.

Gwybodaeth Allweddol


Y manteision i chi:


Byddwch yn dysgu rhaglennu Python o'r dechrau, drwy gwrs a ariennir yn llawn, wedi'i achredu gan Brifysgol Abertawe ac sy’n cynnig 10 credyd – sy’n berffaith os nad ydych chi wedi creu llinell o gôd erioed o'r blaen. Erbyn y diwedd, bydd gennych sylfaen gadarn yn un o'r ieithoedd rhaglennu a ddefnyddir fwyaf yn y byd.

Ond mae mwy i hyn nag eistedd mewn ystafell ddosbarth. Byddwch chi'n gweithio ochr yn ochr ag academyddion o adrannau gan gynnwys Cyfrifiadureg a Ffiseg, ar brosiect ymchwil ryngddisgyblaethol o'r byd go iawn, gan archwilio sut mae AI yn cael ei ddefnyddio mewn meysydd gwahanol. Mae'n gyfle i weld sut mae AI yn gweithio'n ymarferol, cyfrannu at ymchwil go iawn a chreu rhywbeth y gallwch chi siarad amdano mewn cyfweliadau. Ar ddiwedd y bŵtcamp, byddwch yn cyflwyno eich gwaith - ychwanegiad gwych at eich portffolio a thystiolaeth o'ch galluoedd.

Byddwch hefyd yn cael cymorth cyflogadwyedd pwrpasol drwy gydol y cwrs, gan gynnwys help gyda'ch CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau a datblygu'r sgiliau ehangach mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Y manylion ymarferol:


  • Ble: Adeilad Margam, Campws Singleton Prifysgol Abertawe
  • Ble: Adeilad Margam, Campws Singleton Prifysgol Abertawe
  • Oriau: Amser llawn, 9am-5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener
  • Bwrsariaeth: £200 yr wythnos (i'w thalu ar ddiwedd y mis yn ôl-weithredol, yn amodol ar bresenoldeb)
  • Lleoedd: 12

Pwy sy'n gallu cyflwyno cais:


Mae'r bŵtcamp hwn ar gyfer graddedigion Prifysgol Abertawe sy'n ddi-waith ar hyn o bryd ac yn awyddus i feithrin sgiliau newydd. I fod yn gymwys, rhaid i chi fod:

  • Wedi graddio o Brifysgol Abertawe yn ystod y pum mlynedd diwethaf
  • Heb astudio ar raglen lefel Meistr neu uwch
  • Yn ddi-waith ar hyn o bryd ac yn gymwys i weithio yn y DU
  • Ar gael i fod yn bresennol amser llawn drwy gydol y cyfnod chwe wythnos cyfan
  • Yn byw o fewn pellter teithio i Gampws Prifysgol Abertawe
  • Heb ennill gradd mewn Cyfrifiadureg neu ddisgyblaethau perthynol

Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ac rydym yn disgwyl diddordeb cryf, felly cyflwynwch gais yn gynnar.

Sut i gyflwyno cais:


Cwblhewch y ffurflen gais yma.

Cwestiynau?


Am y bŵtcamp: Megan Venn-Wycherley (megan.venn-wycherley@swansea.ac.uk) neu Roz Toft (r.toft@swansea.ac.uk)
 
Am y broses ymgeisio: Samantha Williams (a.n.williams@swansea.ac.uk)

Cyflwynir y bŵtcamp hwn gan Technocamps, drwy'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe ac mae wedi'i hariannu gan Raglen Sgiliau Ychwanegol yr EPSRC.