Rhaglenni


Rydym yn gweithio gyda phob ysgol ledled Cymru i helpu gyda sgiliau digidol ac i annog disgyblion i astudio pynciau STEM. Rydym yn cefnogi disgyblion o'r ysgol gynradd ac ymlaen i goleg, a hynny trwy weithgareddau yn ystod y tymor a chymorth allgyrsiol yn ein clybiau gwyliau a chlybiau ar ôl ysgol. Rydym hefyd yn darparu DPP parhaus a chyfleoedd ar gyfer rhwydweithio i athrawon.

Ar ben hyn oll, rydym wedi sefydlu thema ymchwil, rydym yn gweithio i adfer y cydbwysedd rhwng y rhywiau o ran astudio pynciau STEM, ac rydym yn ymgysylltu â busnesau trwy ein rhaglenni gradd a digwyddiadau a ariennir yn llawn.

Playground Computing logo

Mae ein rhaglen ysgolion cynradd yn cynnig gweithdai arloesol mewn ysgolion ledled Cymru. Mae'r sesiynau'n cynnig cymorth o ran codio a rhaglennu, gan ddefnyddio Scratch a meddalwedd arall. Rydym hefyd yn darparu gweithgareddau datrys problemau a gweithgareddau eraill heb ddyfais electronig, sy'n annog meddwl cyfrifiadurol lle gallai adnoddau ystafell ddosbarth fod yn gyfyngedig. Rydym yn cynnig y gweithdai hyn mewn ysgolion neu ar ein safleoedd Prifysgol, er, ar hyn o bryd, dim ond ein sesiynau rhithwir yr ydym yn eu darparu er mwyn aros yn ddiogel yn ystod pandemig COVID.

Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i ddatblygu dull trawsgwricwlaidd ar gyfer ein hadnoddau cynradd. Er enghraifft, arweiniodd ein cydweithrediad â chwmni Theatr Na nÓg at ddatblygu a darparu gweithdai arloesol i ategu ei gynyrchiadau theatr.

Mae ein hadnoddau wedi bod yn ddefnyddiol yn yr ystafell ddosbarth i helpu athrawon i gyflwyno gweithgareddau STEM yn eu gwersi ar themâu a phynciau penodol, er enghraifft y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Y llynedd, darparwyd ar gyfer 11,767 o blant ysgolion cynradd mewn 144 o ysgolion, a hynny trwy fwy na 500 o weithdai.

Mae ein holl adnoddau a gweithdai ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Dyma'r gweithdai rhithwir sydd ar gael yma.. Noder ein bod ni'n cynnig pynciau eraill yn seiliedig ar eich anghenion. I fwcio gweithdy neu am ragor o wybodaeth, anfonwch ebost at info@technocamps.com. Os ydych chi ym Mangor, ewch yma..

Primary school girls at a Technocamps workshop

Cyfoethogi STEM

STEM Enrichment logo

Rydym yn gweithio gydag ysgolion uwchradd yng Nghymru i gyflawni ein rhaglen Cyfoethogi STEM. Mae'r rhaglen yn ymgysylltu â chyfranogwyr dros y flwyddyn ysgol gyfan, gan ddarparu ystod o weithgareddau a gweithdai cyfrifiadureg a STEM. Caiff y sesiynau eu harwain gan ein tîm profiadol, a gallwch ddewis y gweithdai sy'n gweddu orau i anghenion eich disgyblion ar sail yr adnoddau sydd ar gael yn lleol. Rydym naill ai'n cyflwyno'r sesiynau'n rhithiwr, yn ymweld â'r ysgolion i ddarparu ar y safle, neu gellir dod â disgyblion i un o'n canolfannau rhanbarthol.

Nod pennaf ein rhaglen yw annog pob person ifanc i astudio pynciau STEM ôl-16 trwy gyflwyno cysyniadau damcaniaethol mewn ffordd hwyliog ac ymarferol. 

Mae Technocamps yn rhaglen ar gyfer Cymru gyfan. Ymhlith ein cynigion y mae gennym weithdai ar feddwl cyfrifiadurol, ieithoedd rhaglennu, gan gynnwys Python a Greenfoot, a chymorth ar gyfer y rhaglen TGAU trwy ein hadnoddau CS101.

Darllena am y gweithdai sydd ar gael yma.. Noder ein bod ni'n cynnig pynciau eraill yn seiliedig ar eich anghenion. I fwcio gweithdy neu am ragor o wybodaeth, anfonwch ebost at info@technocamps.com

STEM Enrichment graduation day
Technoclub logo

Mae ein hymrwymiad i ddarparu'r sgiliau y mae eu hangen ar blant i ddatblygu a thyfu yn parhau, ac rydym bellach yn cynnig clybiau codio ar ôl ysgol i blant 9-16 oed. Mae Technoclub yn gyfle i bobl ifanc ennill profiad cyfrifiadurol yn ystod sesiynau rhyngweithiol byw y tu allan i'r ysgol.

Mae'r clwb yn darparu sesiwn wythnosol am ddim lle bydd y disgyblion yn dysgu sgiliau Cyfrifiadureg newydd wrth weithio tuag at nod prosiect terfynol. Mae wedi'i hanelu at bob gallu, a'r cyfan y mae ei angen yw mynediad i'r rhyngrwyd. Nid oes angen unrhyw wybodaeth na phrofiad blaenorol o ran codio neu raglennu er mwyn ymuno â'r clwb. 

Mae'r clwb yn wych ar gyfer y rheiny sydd wedi mynychu ein gweithdai mewn ysgolion, gan eu galluogi i feithrin eu sgiliau yn hawdd wrth eu pwysau ac mewn amgylchedd dysgu llai ffurfiol. Mae hefyd yn addas ar gyfer dechreuwyr llwyr gan fod y sesiynau wedi'u cynllunio'n fwriadol i ddarparu ar gyfer dysgwyr o bob lefel.

Mae Technoclub yn cael ei redeg gan ein Swyddogion Addysgu profiadol ac ymroddedig, sy'n cylchdroi eu haddysgu fel bod pob sesiwn yn newydd ac yn ffres. Ymdrinnir ag ystod eang o bynciau cyfrifiadurol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ieithoedd rhaglennu, er enghraifft Greenfoot, Logo, Python, micro:bit y BBC, Scratch, Lego Mindstorm a rhai sesiynau Meddwl Cyfrifiadurol hwyliog (ac ymarferol) yn seiliedig ar ddamcaniaethau.

Technoclub runs throughout the school term after school on Mondays at our Swansea University Singleton Campus. Content is repeated so please only register for one session per week.

Children at a Technoclub session
Technolive logo

Yn ystod yr aflonyddwch yn ystod Covid, darlledom ni sesiynau wythnosol rhad ac am ddim, byw a rhyngweithiol ar bwnc newydd. Mae pynciau blaenorol wedi cynnwys Firoleg Gyfrifiadurol, Sgwrsio Chatbots, Orbitau Addurnol a Disgyrchiant Prydferth.

Anelwyd Technolive at oedrannau 9-16. 

I weld y sesiynau hyn ewch i'n sianel YouTube i roi cynnig ar rai o'r gweithgareddau!

Pupil enjoying a Technolive session

Clybiau Gwyliau

Rydym yn cynnig cefnogaeth yn ystod gwyliau'r ysgol gyda rhaglen bwrpasol o ddigwyddiadau i blant. Hyd yn hyn, mae dros 1,000 o ddisgyblion wedi elwa o'r clybiau hyn.


Yn 2019, cynhaliwyd Ysgol Haf i Ferched ac Ysgol Haf ar gyfer plant ysgolion uwchradd yn ein Pencadlys ym Mhrifysgol Abertawe.


Yn 2020, cynhaliwyd clybiau hanner tymor yn Nhrefforest, Wrecsam, Bangor a Chaerdydd.


Hefyd, cynhalion ni Haf STEM dros y cyfnod clo - clwb rhithwir i blant ledled Cymru, gyda tua 100 o blant bob dydd. Roedd y sesiynau ar gael i bobl 9+ oed ac roeddent yn cael eu darparu dros 3 wythnos.

Yn 2021 a 2022, cynhalion ni ein Hacademi STEM dros yr Haf. Mae hwn yn gyfres o weithgareddau gwyddoniaeth hwylus dros nifer o ddyddiau i ymgysylltu disgyblion mewn STEM tu hwnt i'r dosbarth.


Cadwch lygad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, neu tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am glybiau gwyliau'r dyfodol!


Pupil at our Summer School
Technoteach logo

Rydym yn cynnal rhaglen 18 diwrnod o gymorth DPP ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd, wedi'i gynllunio i gefnogi ac ategu arlwy DPP eich consortiwm rhanbarthol.

Mae ein cwrs Technoteach rhad ac am ddim yn cynnwys blwyddyn o astudio a gweithdai ymarferol a ddarperir gan aelodau ymroddedig o'n tîm. Dyfernir cymhwyster addysgu Technocamps i'r cyfranogwyr, gwell proffil DPP, a'r wybodaeth a'r sgiliau i'w galluogi i atodi at ei addysgu yn yr ystafell ddosbarth.

The course is designed to bridge a ‘knowledge gap’ in teachers’ understanding of coding and computer science with modules specifically chosen to fit the needs of the curriculum as it is delivered in schools. The course provides teachers with both the skills and confidence to teach computer science-based lessons, as well as knowledge of programming and the digital learning opportunities it provides. The sessions are provided by our delivery officers who have vast experience of developing and delivering cross-curricular computer science workshops.

Yn rhan o'r cwrs, mae cyfranogwyr yn cynhyrchu adnoddau i'w defnyddio yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain, sy'n arbennig o bwysig yng ngoleuni'r Cwricwlwm i Gymru newydd, lle mae llythrennedd digidol a chyfrifiadureg yn sail i bob agwedd ar y maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Os oes diddordeb gennych, yn ein cwrs Technoteach rhad ac am ddim, mynegwch eich diddordeb gan ddefnyddio'r ffurflen https://tc1.me/TechnoteachEOI a byddwn yn cysylltu os oes bwriad i redeg y cwrs.

Athrawon Cynradd:
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal cyrsiau DPP byr ar gyfer athrawon ysgolion cynradd. Dechreuir y cyrsiau hyn ar ddechrau pob tymor (Medi, Ionawr ac Ebrill), ac maent yn cynnig deg sesiwn ddwyawr ar ôl ysgol neu, drwy drefniant, yn ystod amser ysgol.

Mae'r holl gyfranogwyr hyd yma wedi adrodd ei fod wedi cael effaith sylweddol arnynt eu hunain, eu hysgolion a'u disgyblion.


Athrawon Uwchradd:
Rydym yn cynnal dosbarthiadau meistr pwrpasol ar bynciau sy'n aml yn anodd eu haddysgu (er enghraifft Algebra Boole), ac yn darparu digwyddiadau Teachmeet sy'n galluogi athrawon i rannu arfer gorau a rhwydweithio ag athrawon eraill sy'n addysgu Cyfrifiadureg, Technoleg Digidol, TG neu Fusnes.

Technoteach Graduation

Prentisiaeth Gradd

Degree Apprenticeship logo
Mae'r radd BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol yn ffordd gyffrous ac arloesol i unigolion ennill gradd mewn Peirianneg Meddalwedd, tra mewn cyflogaeth. Mae’r cwrs yn cyfuno dysgu academaidd traddodiadol â dysgu sy'n seiliedig ar waith, gan ei gwneud hi’n hawdd cymhwyso gwybodaeth a sgiliau newydd i amgylchedd y gweithle. Mae'r cwrs 3 blynedd hwn yn cael ei addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ac yn cwmpasu sbectrwm eang o gynnwys fel: Rhaglennu a Datblygu Meddalwedd; Algorithmau a Chronfeydd Data; Datblygu Apiau Ffonau Symudol a'r We; a Diogelwch Cyfrifiadurol. Os ydych chi'n chwilio am gwrs gradd Prifysgol sy'n addas ar gyfer Prentisiaeth Technoleg Ddigidol yn eich cwmni, mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol. Mae'r cwrs wedi'i ariannu'n llawn, yn amodol ar gadarnhad gan MEDR, a byddai felly'n helpu'ch cwmni i lwyddo gyda Phrentis dawnus ac yn elwa ar y cyfle i ennill a dysgu.

Astudiaethau Achos

Degree Apprenticeship group photo

Ymchwil

Technocamps Research logo

Fel menter mewn prifysgol, mae Technocamps yn cael ei llywio gan academyddion. Yn hynny o beth, mae llawer o'i gweithgareddau yn cael eu llywio gan – ac yn llywio – ymchwil sylfaenol. I gydnabod hyn, rydym wedi sefydlu thema ymchwil sy'n crynhoi agwedd cenhadaeth ddinesig ein pwnc, a hynny o dan y teitl EHP: Seiliau Addysgol, Hanesyddol ac Athronyddol Cyfrifiadureg.

Mae dylanwad data, meddalwedd a chyfrifiannu ar y byd yn dwysáu. Mae ymddangosiad ystod o dechnolegau digidol wedi trawsnewid sawl agwedd ar ein bywydau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a phersonol. Mae cyfrifiadurwyr wrth galon y technolegau hyn, a gallant gael mewnwelediad dwfn i'r modd y maent yn effeithio ar y byd ac yn ei newid – o ddamcaniaeth i bolisi ac ymarfer.

Mae cyfrifiadurwyr sy'n gysylltiedig â Technocamps, yn enwedig ym Prifysgol Abertawe, wedi gwneud, ac wrthi'n gwneud, cyfraniadau technegol sy'n sbarduno newid, ond maent hefyd yn mynd i'r afael â chwestiynau fel y rhain:

  • Addysg – pa addysg y dylem ei chynnig yn ein hysgolion a'n prifysgolion, i fusnesau, gwasanaethau cyhoeddus, a'r proffesiynau, ac i'r cyhoedd yn gyffredinol?
  • Hanes a threftadaeth – beth yw achosion newidiadau? Beth yw'r dyfeisiadau a'r datblygiadau arloesol sy'n allweddol i'n technolegau, ein huchelgeisiau a'n pryderon cyfredol?
  • Athroniaeth – sut y mae ein technolegau yn siarad â phroblemau athronyddol clasurol, dynol o ran yr hyn y gallwn ei wybod, yr hyn y gallwn ei wneud, a phwy yr ydym?

Rydym yn ymdrin â chwestiynau o'r fath ag agwedd gyfannol ac amlddisgyblaethol, gan ddod â gwybodaeth at ei gilydd o feysydd mor amrywiol ag, e.e. rhesymeg fathemategol, theori cyfrifiannu, peirianneg meddalwedd, deallusrwydd artiffisial, gwyddor data, hanes byd-eang a lleol, athroniaeth glasurol, athroniaeth gwyddoniaeth a thechnoleg, astudiaethau cymdeithasol ac astudiaethau o'r cyfryngau.

Mae sgyrsiau athronyddol am epistemoleg, moeseg a hunaniaeth yn sail i ddadleuon cyfredol a thybiaethau yn y dyfodol. At hynny, mae ein hymchwiliadau i gwestiynau addysgol, hanesyddol ac athronyddol yn aml yn cael eu cyfeirio at ddatblygiad polisïau yn y cylchoedd cyhoeddus a phreifat. Yn unol â ffocws cenhadaeth ddinesig EHP, gweithgaredd allweddol fydd cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus. Cynhaliwyd Darlith Gyhoeddus gyntaf EHP, Cwricwlwm ar gyfer Dyfodol Llwyddiannus?, ar 17 Hydref 2019, ac roedd yn cynnwys y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ochr yn ochr â’r Athro Graham Donaldson, awdur Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru.

GiST logo

Cydnabyddir yn eang bod merched yn cael eu tangynrychioli mewn diwydiannau STEM, a’n nod yw unioni’r cydbwysedd. Trwy ein rhaglen GiST Cymru, rydym yn cynnal ac yn cefnogi digwyddiadau yn benodol ar gyfer merched, gyda’r nod o ymgysylltu â’r rhai nad ydynt efallai wedi ystyried STEM fel llwybr o’r blaen a’u hysbrydoli i ddilyn gyrfaoedd ym maes STEM yn y dyfodol.

Rydym yn cydweithio â nifer o bartneriaid allanol i sicrhau bod cynllun GiST Cymru yn darparu amrywiaeth o ran cynnwys ac yn cynnig cyfle i gyfranogwyr brofi ac archwilio pynciau STEM mewn ffordd hwyliog a deniadol. Rydym yn falch o fod wedi cefnogi gweithdai ar gyfer sefydliadau gan gynnwys CyberFirst a Motorsport UK. CyberFirst a Motorsport UK.

Gwyliwch ein cydweithrediad â digwyddiad Girls on Track Motorsport UK:

WiST logo

Nod ein rhwydwaith WiST yw sefydlu cysylltiadau rhwng menywod sy’n gweithio o fewn y sector (technoleg yn arbennig) gyda digwyddiadau rheolaidd i ddysgu o brofiad ei gilydd yn y gweithle ac i gefnogi ac ysbrydoli’r rhai sydd ar lwybr gyrfa gynnar. Rydym yn annog aelodau i gymryd rhan yn y prosiect ac rydym yn cynnig cyfleoedd i unigolion, cwmnïau, a sefydliadau eraill ymgysylltu â phobl ifanc trwy ddatblygu rhwydwaith model rôl cryf i gefnogi'r gwaith a wnawn mewn ysgolion.

Rydym hefyd yn cynnal gala Diwrnod Rhyngwladol y Merched i barhau i ysbrydoli, grymuso a dathlu cyflawniadau menywod mewn STEM, tra’n meithrin cysylltiadau a chyfleoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r digwyddiad hwn yn dod â dros 200 o westeion ynghyd o bob rhan o Gymru a thu hwnt i ddathlu cyfraniadau a chynnydd menywod, gan ddod yn digwyddiad annwyl ar galendr cymdeithasol Cymru sy’n cynnig llwyfan pwerus i amlygu cyflawniadau, rhannu straeon ysbrydoledig, ac adeiladu cymuned gefnogol sy’n ymroddedig i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol mewn STEM.

Technotalks logo

Mae ein podlediad Technotalks yn bwriadu difyrru a hysbysu pobl ifanc am y gyrfaoedd sydd ar gael iddynt yn y sectorau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Bob wythnos, bydd pobl ysbrydoledig mewn gyrfaoedd STEM yn trafod beth mae eu swydd yn ei gynnwys, eu llwybrau gyrfa a'r dechnoleg newydd gyffrous yn eu maes.

Mae ein Cyn-gydlynydd Rhanbarthol ar gyfer ein Canolfan USW, Laura Roberts, yn cynnal y podlediad, gan gyfweld â gwesteion o bob rhan o Gymru a thu hwnt am eu rolau mewn STEM, sy'ngolygu y gallwch chi wrando yn eich amser eich hun.

Nod y podlediad yw cyrraedd merched 11-18 oed yng Nghymru, ond mae'r sioe ar gael i gynulleidfa lawer ehangach ar Spotify a Soundcloud. Mae episodau tua hanner awr o hyd ac mae taflenni gwaith yn cael eu darparu i helpu gyda gwaith dosbarth a gwaith cartref.

Canolfan Dysgu Minecraft

Minecraft: Eduction Edition

Rydym yn falch o gael pum Canolfan Ddysgu Minecraft HWB ar draws Cymru. Mae staff Technocamps o Fangor, Caerdydd, Glyndŵr, Abertawe a Phrifysgol De Cymru wedi ennill statws Athro Ardystiedig Minecraft ac wedi gweithio’n agos gyda HWB a Prodigy Learning i ddarparu cyfleoedd DP i athrawon wella profiad dysgu eu disgyblion yn y dosbarth! Rydym nawr wrthi'n dreialu cwrs newydd i athrawon ddatblygu eu dealltwriaeth o gysyniadau rhaglennu a'u cymhwyso o fewn gwersi deniadol a thematig a ddarperir gan Minecraft i'w defnyddio gyda'u dosbarthiadau eu hunain. Bydd y sesiynau hyn yn canolbwyntio ar y cysyniadau o Ddilyniant, Digwyddiadau a Newidynnau, Dethol ac Amodau, Iteriad a Dolenni Nythog.

Mae Technocamps yn gyffrous gan botensial defnyddio Minecraft: Education Edition fel llwyfan i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o gysyniadau rhaglennu a defnyddio ei alluoedd amlieithog i ganiatáu i’r datblygiad barhau drwy gydol y camau cynnydd a amlinellir yng Nghwricwlwm i Gymru 2022.

Wrth wraidd y Cwricwlwm i Gymru, mae codi uchelgeisiau myfyrwyr i fod yn ddysgwyr llwyddiannus, sy’n chwarae rhan weithredol yn eu cymuned a’r gymdeithas ehangach, ac sy’n barod i ffynnu mewn byd cynyddol gymhleth. Mae Minecraft: Education Edition yn helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer gweithlu’r dyfodol, gan ddatblygu sgiliau cydweithio, cyfathrebu, meddwl yn feirniadol a meddwl trwy systemau. Mae’r amgylchedd dysgu agored yn rhoi rhyddid i fyfyrwyr arbrofi, gan annog hunanfynegiant creadigol a datrys problemau.