Astudiaeth Achos: Aled-Wyn John

adminAstudiaeth Achos, Degree Apprenticeship Case Study, Newyddion

Mae Aled yn gweithio o fewn adran Ystadau Prifysgol Abertawefel gweinyddwr systemau ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn chwaraeon. Daeth e'n ymwybodol o’r Radd-brentisiaeth yn gyntaf trwy ei reolwr ac roedd e'n awyddus iawn i gymryd rhan. Ar ôl cyfweliad byr a phrawf bach, cafodd ei dderbyn ar y cwrs…

Roedd gan Aled ddiddordeb mewn TG ers yn ifanc. Cafodd ei gyfrifiadur cyntaf yn 11 oed ac mae e wedi mwynhau cyfrifiadura ers hynny. Ond yn academaidd, nid oedd Aled yn llwyddiannus iawn o ran cyfrifiadureg. Yn eironig, yr unig TGAU a fethodd oedd TG, a methodd TG ar Safon Uwch hefyd. Pan oedd Aled yn 19 oed, cychwynnodd radd Peirianneg Meddalwedd ym Mhrifysgol Metropolitan Abertawe, ond methodd ei flwyddyn gyntaf felly symudodd ymlaen i gwrs cyfrifiadureg arall. Ni wnaeth hyn atal Aled rhag symud ymlaen gyda gyrfa mewn cyfrifiadureg. Ei ysbrydoliaeth yw ei frawd, datblygwr meddalwedd sydd â'i gwmni meddalwedd llwyddiannus ei hun, sy'n gwneud miliynau o bunnoedd bob blwyddyn. Roedd Aled wastad eisiau gallu gwneud yr hyn y gallai ei frawd ei wneud, ond ni lwyddodd i ddysgu rhaglennu erioed. Trwy gyflawni'r Rradd-brentisiaeth, mae wedi gallu cyflawni ei uchelgais.

Yn ei rôl gyfredol, prif gyfrifoldebau Aled yw gweithredu systemau newydd, profi a rhyddhau uwchraddiadau, gweithio gyda chyflenwyr meddalwedd i ddatblygu a rhyddhau datblygiadau newydd a llawer mwy. Mae hefyd yn creu adroddiadau gan ddefnyddio ystod o feddalwedd o Excel, PowerBI ac offer adrodd pwrpasol. Gyda'i gymhwyster peirianneg meddalwedd newydd, mae ei rôl yn newid yn araf gan ei fod bellach yn gallu creu a rhyddhau systemau pwrpasol ei hun. Roedd y Brifysgol arfer yn defnyddio cwmnïau allanol i greu datrysiadau meddalwedd pwrpasol am gost fawr, ond mae Aled bellach yn gallu creu systemau pwrpasol o fewn y Brifysgol. Y datblygiad cyntaf i'w weithredu fydd y prosiect a greodd yn ei drydedd flwyddyn o'r Radd-brentisiaeth. Mae cynlluniau ar y gweill i Aled ddatblygu a rhyddhau mwy o systemau i gynorthwyo gyda gwella prosesau mewnol.

Mae'r wybodaeth a gafwyd o'r cwrs yn helpu Aled i gyfathrebu â chyflenwyr a chreu adroddiadau pwrpasol. Mae hyn oherwydd bod ganddo well dealltwriaeth o greu meddalwedd, felly gall egluro pethau ar lefel dechnegol, a gyda gwybodaeth ddatblygedig o gronfeydd data, gall adrodd a chreu ymholiadau na allai eu gwneud o'r blaen.

Agweddau rhaglennu'r cwrs oedd y rhai mwyaf diddorol a difyr i Aled. Roedd ei hoff fodiwlau yn canolbwyntio ar gymwysiadau gwe ac apiau symudol. Mae ganddo ddiddordeb mewn rhaglennu, ond roedd ef erioed wedi dysgu sut i wneud hynny. Y ffordd y mae'r cwrs yn cael ei ddysgu, mae'n mynd â myfyrwyr o ddechreuwyr llwyr, i allu creu systemau meddalwedd llawn. Y datblygiad personol hwn oedd y mwyaf hwylus i Aled, gan fod myfyrwyr yn creu cymwysiadau gwe llawn ac apiau symudol, a dyna beth roedd Aled wedi bod eisiau gallu ei wneud erioed, ond byth yn meddwl y byddai'n gallu.

Rhan fwyaf heriol y cwrs i Aled oedd rheoli amser rhwng ei swydd lawn-amser, ei deulu a'i waith cwrs. Ond, ar ôl yr ychydig o fisoedd cyntaf, daeth o hyd i gydbwysedd da rhwng y tri a llwyddodd i reoli pob agwedd. Roedd hefyd yn heriol i Aled addasu o gael y cwrs wedi'i ddysgu'n gorfforol, i fod ar-lein oherwydd COVID. Ond diolch i waith y staff y Radd-brentisiaeth, daeth yn “normal” yn gyflym i Aled wrth i’r cyfnod pontio gael ei wneud yn llyfn.

Uchelgais eithaf Aled yw cychwyn ei gwmni meddalwedd ei hun a chael busnes llwyddiannus. Mae pedwar myfyriwr a gwblhaodd y radd ar yr un pryd â'r un uchelgeisiau, ac maent yn trafod sut y gallent wneud hyn yn y dyfodol.

Cafodd Aled drafferth nifer o weithiau gydag ochr academaidd cyfrifiadureg, a rhaglennu’n benodol, ond graddiodd yn llwyddiannus o’r cwrs. Mae'n annog unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais am y cwrs hwn i fynd amdani. Os ydych chi'n ansicr os oes gennych chi'r sgiliau angenrheidiol, bydd tîm y Radd-brentisiaeth yn eich cefnogi chi tuag at lwyddiant.

“Trwy gyflawni'r cwrs hwn, rydw i wedi gallu cyflawni fy uchelgeisiau, a byddaf yn ddiolchgar am byth. Rydw i wedi mwynhau'r 3 blynedd diwethaf yn aruthrol. Roedd yn anodd ar brydiau, ond mae’r gefnogaeth gan y darlithwyr heb ei ail, ac rydw i wedi gwneud rhai ffrindiau am oes.”