Adborth



Rydym yn gweithio gydag athrawon, rhieni, disgyblion a busnesau i sicrhau bod ein gweithdai a'n cyrsiau'n berthnasol iddynt. Rydym yn defnyddio adborth i ffurfio digwyddiadau yn y dyfodol a gallwn addasu unrhyw beth i weddu i'ch anghenion. Dyma rai tystebau gan bobl rydyn ni wedi gweithio gyda nhw yn y gorffennol.

"Roedd y sesiwn Algorithmau ar gyfer Blwyddyn 11 yn ardderchog, felly diolch i'r tîm unwaith eto. Ymgysylltodd y myfyrwyr â'r cynnwys yn fawr a'i fwynhau. Fe wnes i fwynhau'r arddangosiad gwneud te yn arbennig - hwyl iawn! Mae'r algorithmau y mae Luke wedi'u dysgu yn y math o gwestiynau y mae myfyrwyr wir yn cael anhawster â nhw. Maent yn ymddangos yn Unedau 1 a 2 felly mae'n ffurfio darn eithaf mawr o'u dealltwriaeth a dyma lle mae'n rhaid iddynt feddwl drostyn nhw eu hunain.  Diolch am wneud sesiwn arall ar eu cyfer nhw, rwy'n siŵr y bydd o fudd mawr iddynt! "

- Athro Bro Dinefwr

Image
Image

"Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn am y wers Technoclub gyntaf heno. Fe wnaeth fy ŵyr ei mwynhau yn fawr ac mae mor siomedig ei fod yn gorfod aros wythnos gyfan am y wers nesaf!

"Roedd pawb yn gyfeillgar a dysgodd lawer a dywedodd wrthyf ei fod yn mynd i ymarfer yr hyn y mae wedi'i ddysgu."

- Rhiant Technoclub

“O fy safbwynt i, mae fel dysgu yn ddiarwybod. Pe bawn i wedi ceisio eu cael i wneud unrhyw un o'r gweithgareddau, byddent wedi cwyno “mae fel ysgol gartref eto ...”, ond rydych chi i gyd mor apelgar eu bod nhw'n mynd ati'n syth gyda brwdfrydedd mawr! Mae'r fformat rydych chi'n ei ddefnyddio yn wych ac mae faint o wybodaeth rydych chi'n ei rhannu â ni wedi creu argraff arnom i gyd.”

- Rhiant Haf STEM

Image
Image

"Fe wnaeth Dylan mwynhau sesiwn heddiw yn fawr; mae bod ar y sbectrwm yn golygu ei bod yn anodd iawn ymgysylltu ag ef y tu allan i'w ddiddordebau arbennig – rydym wedi treulio'r rhan fwyaf o sesiwn y prynhawn yn cyfnewid seiffrau Pig Pen – felly roedd heddiw yn fuddugoliaeth fawr!”

- Rhiant Haf STEM

"Diolch i bawb yn Technocamps am eich help a'ch cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf, rydych chi wedi rhoi cyfle i mi gefnogi fy nisgyblion ymhellach ac i ymgysylltu ymhellach â'r pwnc rwy'n angerddol iawn amdano."

- Graddedig DPP VTCT Technoteach

Image
Image

"Llawer mwy o ddyfnder na chyrsiau eraill. Ychydig iawn o gyrsiau TGCh sy'n cefnogi uwchsgilio staff â sgiliau y gellir eu trosglwyddo i weddill yr ysgol."

- Graddedig DPP VTCT Technoteach

"Diolch am yr holl gymorth mae'r tîm wedi rhoi i'r plant, yn enwedig gan fod yr ysgolion wedi cau yn gynnar oherwydd Covid-19. Mae wedi bod yn wych iddynt. Mae fy mab yn edrych ymlaen at gwrs blwyddyn nesaf yn barod."

- Rhiant Technoclub

Image
Image

“Diolch yn fawr am sesiwn Dysgu Peiriannol CA2. Fe wnaeth y plant ei fwynhau yn fawr a rhoi adborth gwych ac maent yn gyffrous am y posibilrwydd o wers arall pan ddychwelwn i'r ysgol.”

- Athro Ysgol Maesglas

"Anhygoel. Hynod o Hwyl!"

- Dysgwr

Image
Image

"Mae fy merch Ffion yn llawn cyffro am y mae llwybrau newydd sydd wedi'u hagor iddi a dyna pam mae'n hanfodol bod Technocamps yn parhau â'u gwaith anhygoel."

- Rhiant

"Diolch i chi a'ch tîm am y profiad anhygoel a gawsom yr wythnos diwethaf. Rydw i wedi cael adborth gwych gan y dysgwyr a'r staff."

- Mr Stoneley, Ysgol Glan Clwyd

Image
Image

"Mae llwyth a llwyth o waith effeithiol [i gefnogi plant i mewn i STEM] yn cael ei gyflawni ledled Cymru. Dyma fy nghyfle i ddiolch yn fawr iawn i'r cyfraniad y mae Technocamps yn ei wneud i hynny."

- Kirsty Williams AS, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru

"Rwy'n hoffi gwyddoniaeth lawer mwy nawr. Dysgais lawer o ffeithiau a hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn."

- Dysgwr Haf o STEM

Image
Image

"Rwy'n dysgu Python i Flwyddyn 9 ac i fod yn onest ni fyddwn i wedi cael syniad beth i'w wneud heb eich help chi. Rwy'n teimlo'n hyderus yn cyflwyno ac yn dysgu Python ac mae'n ymddangos bod y disgyblion yn ei fwynhau a'i deall nawr, rwy'n falch iawn am hwn."

- Athro Ysgol Bro Dinefwr

"Ni allaf fynegi'r budd y mae'r sesiynau Technocamps wedi bod. Nid yn unig y fideos ar gyfer staff ond y fideos y gallwn eu defnyddio gyda disgyblion hefyd.

Diolch i chi i gyd am greu deunydd hyfforddi a gwersi pwrpasol y gallwn ni eu defnyddio gyda'n disgyblion."
 

- Natalie Jacob, athro Technoteach

Image
Image

"Waw, ble i ddechrau! Roedd y tîm a'r gweithdai yn anhygoel ac roedd y plant wrth eu boddau. Maen nhw hefyd wedi datblygu ystod eang o sgiliau ac mae'r staff yn llawer mwy hyderus wrth ddefnyddio'r apiau a'r citiau/dyfeisiau digidol rydych chi'n gadael i ni eu defnyddio. Diolch yn fawr am eich holl gefnogaeth a'ch arweiniad, gwerthfawrogir yn fawr."

- Dirprwy Bennaeth, Ysgol Gynradd Catholig St. Alban

"Diolch yn fawr am gefnogi ein pwnc 'Technofest'. Mae'r dysgwyr wedi mwynhau eu gweithdai yn fawr ac wedi magu hyder a gwybodaeth am gyfrifiant.
 
Fe wnaeth y staff hefyd fwynhau eu sesiwn DPP gyda chi ac maen nhw wedi bod yn defnyddio eu gwybodaeth yn ystod y pwnc. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi eto yn fuan!"
 

- Gemma Hughes, Ysgol Gynradd Catholig St. Alban

Image
Image
"Roedd eich swyddogion addysgu'n wych gyda'r disgyblion ac maent yn glod i'ch tîm. Gwnaethant i ni'r staff deimlo'n gyfforddus ynghylch pwnc a all fod yn eithaf brawychus. Roeddent yn hawdd siarad â nhw, yn wybodus ac yn broffesiynol iawn yn eu cyflwyniad.
 
Roedd y gweithdai yn hynod ddefnyddiol i’r disgyblion, a gobeithiwn chwilio am gyllid i gwblhau rhai pryniannau yn fuan. Mae’r gweithdai’n hanfodol i helpu ysgolion i gyrraedd safonau’r cwricwlwm newydd a hoffem eich croesawu i ddychwelyd pryd bynnag y bydd gennych argaeledd.”
 

- Athro, Ysgol Bro Aled

"Roedd gweithdai ddoe yn ardderchog, diolch o galon i chi a'r tîm am hwn. Roedd y plant yn ymgysylltu ac wedi cael effaith enfawr ar eu haddysgu!"
 

- Mrs Day, Ysgol Gynradd St Gabriel a Raphael

Image