institute of coding logo with the technocamps logo

Cymorth Technocamps ar gyfer Athrawon


Yn anffodus, nid ydym wedi sicrhau unrhyw gyllid ar gyfer y dyfodol gan Lywodraeth Cymru, felly mae ein argaeledd gweithdai yn ysbeidiol. Ar hyn o bryd rydym yn gweithredu rhestr aros. Os yw ysgolion yn gymwys ac os byddwn yn derbyn cyllid, byddwn yn cysylltu â nhw. Gallwch gofrestru ar gyfer ein rhestr aros drwy e-bostio info@technocamps.com.

Rydym yn darparu Gweithdai STEM i ysgolion yng Nghymru, yn ogystal â hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i athrawon i'w paratoi ar gyfer yr her o gyflawni mewn amgylchedd sy'n gynyddol dechnegol a deinamig. O gyfleoedd DP i gynadleddau a digwyddiadau, mae gennym ystod o adnoddau defnyddiol i'ch helpu i gyflwyno'r cwricwlwm Cyfrifiadureg a TG.

Rydym yn ceisio cadw ar y blaen i'r cwricwlwm mewn ysgolion. Rydym yn gweithio gydag athrawon i integreiddio gweithgareddau i feysydd dysgu a chynlluniau gwaith.