Cymorth TGAU Technoleg Ddigidol


 

Dechreuodd addysgu'r TGAU Technoleg Ddigidol newydd ym mis Medi 2021 gyda'r garfan gyntaf o ddisgyblion ledled Cymru yn cwblhau'r cymhwyster yn 2023. Mae Technoleg Ddigidol yn gymhwyster digidol eang sy'n rhoi mewnwelediad i ddysgwyr o'r defnydd a'r ddealltwriaeth o dechnoleg fel rhan o'u bywydau cymdeithasol a phroffesiynol.

Yn ystod 2021-2022 cynhaliom raglen DP a gynlluniwyd i gefnogi athrawon ysgolion uwchradd i gyflwyno TGAU Technoleg Ddigidol yng Nghymru. Roedd y cwrs yn rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Roedd y cwrs DP ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
- Datblygu Gemau
- Animeiddio
- Datblygu'r We
- Data Analog a Digidol a Dyfeisiau Digidol
- Y We
- Systemau Gweithredu
- Cylch Datblygu Systemau
- Gwasanaethau'r Cwmwl
- Seiberddiogelwch
- Technolegau Digidol sy'n Newid
- Cyfathrebiadau Digidol
- Creu Asedau a Datblygu Cyfryngau
- Ymchwilio a Dadansoddi Data
- Datblygu Cynllun Addysgu
- Dysgu Arferion Digidol

Technocamps workshop