Image

Addysg, Hanes ac Athroniaeth


Mae dylanwad data, meddalwedd a chyfrifiannu ar y byd yn dwysáu. Mae ymddangosiad ystod o dechnolegau digidol wedi trawsnewid sawl agwedd ar ein bywydau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a phersonol. Mae cyfrifiadurwyr wrth galon y technolegau hyn, a gallant gael mewnwelediad dwfn i'r modd y maent yn effeithio ar y byd ac yn ei newid – o ddamcaniaeth i bolisi ac ymarfer.

Mae Grŵp Ymchwil Addysg, Hanes ac Athroniaeth (EHP) wedi gwneud, a dal wrthi yn gwneud, cyfraniadau technegol sy’n ysgogi newid, ond sydd hefyd yn mynd i’r afael â chwestiynau fel y rhain:

  • Addysg. Pa addysg mewn cyfrifiadureg y dylem ei chynnig (i) i fyfyrwyr ac athrawon ysgol a phrifysgol; (ii) i bobl sy'n gweithio mewn busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a'r proffesiynau, a (iii) i ddinasyddion?
  • Hanes a Threftadaeth. Beth yw achosion newidiadau? Beth yw'r dyfeisiadau a'r datblygiadau arloesol sy'n allweddol i'n technolegau, ein huchelgeisiau a'n pryderon cyfredol?
  • Athroniaeth. Sut y mae ein technolegau yn siarad â phroblemau athronyddol dynol clasurol o ran yr hyn y gallwn ei wybod, yr hyn y gallwn ei wneud, a phwy yr ydym?

Rydym yn defnyddio dull cyfannol ac amlddisgyblaethol o ymdrin â chwestiynau o’r fath, gan ddwyn ynghyd wybodaeth mewn meysydd mor amrywiol â, e.e., rhesymeg fathemategol, theori cyfrifiant, peirianneg meddalwedd, deallusrwydd artiffisial, gwyddor data, hanes byd-eang a lleol, athroniaeth glasurol, athroniaeth gwyddoniaeth a thechnoleg, astudiaethau cymdeithasol a chyfryngau. Mae trafodaethau athronyddol am epistemoleg, moeseg, hunaniaeth, ac ati, yn sail i ddadleuon cyfredol a dyfaliadau ynglŷn â'r dyfodol. Ymhellach, mae ein hymchwiliadau i gwestiynau addysgol, hanesyddol ac athronyddol yn aml yn cael eu cyfeirio at ddatblygiad polisïau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Ers sefydliad ITWales ym 1993, sef rhagflaenydd Technocamps, rydym wedi adeiladu cyfleusterau a chyrsiau sylweddol i staff a myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u hymwybyddiaeth o faterion cymhleth. Yn bwysicaf oll, rydym wedi estyn allan i lawer o sectorau a dinasyddion i ymchwilio i arferion presennol, deall sut y maent yn codi, a pha gymorth a newidiadau y gallai fod eu hangen. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:

  • Technocamps, sy’n darparu rhwydwaith enfawr o arbenigedd sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion ysgol, cwricwla, a chymorth proffesiynol i athrawon a busnesau yng Nghymru.
  • Sefydliad Codio (IoC) yng Nghymru, cymuned o ddysgwyr, busnesau ac addysgwyr yn creu ffyrdd newydd o ddatblyguy sgiliau digidol angenrheidiol yn y gweithle a thu hwnt.
  • Casgliad Hanes Cyfrifiadura (HoCC), sy'n casglu deunyddiau o bob math sy'n ymwneud â datblygiad cyfrifiadura a'i effaith gymdeithasol.

Gwybodaeth Bellach