
Amdanom
Nod cyrsiau byr yw gwella eich sgiliau technoleg. Maent yn berffaith ar gyfer dysgu pynciau newydd ac ennill sgiliau gwerthfawr a all roi hwb i'ch gyrfa a datgloi cyfleoedd newydd.
Mae'r BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol yn ffordd arloesol i unigolion ennill gradd tra mewn cyflogaeth. Mae'r cwrs yn agored i weithwyr cwmnïau a sefydliadau rhanbarthol, ac fe'i cyflwynir ar gampws y Brifysgol ar ddydd Mercher.
Ein Partneriaid
Rydym yn gweithio'n agos gyda llawer o sefydliadau mawr a bach, ac mae rhai hyd yn oed yn ein cefnogi trwy ein Panel Cynghorol Diwydiant. Mae rhain yn cynnwys TATA Steel, Nhŷ'r Cwmnïau, y DVLA, ONS, NWIS, DevOps Group, Blue Prism, Cydweithio.
Gallwch hefyd gefnogi Technocamps drwy ein Grŵp Llywio, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys BBC Cymru, Cymwysterau Cymru, Theatr Na Nog, Cyngor Abertawe a Chyngor CNPT.
Byddem wrth ein bodd yn gweithio gyda chi! Cysylltwch â ni! os hoffech weld sut y gallwn ni gydweithio.