Prentisiaeth Gradd
BSc Hons Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol

Amdanom
Mae'r radd BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol yn ffordd gyffrous ac arloesol i unigolion ennill gradd mewn Peirianneg Meddalwedd, tra mewn cyflogaeth. Mae’r cwrs yn cyfuno dysgu academaidd traddodiadol â dysgu sy'n seiliedig ar waith, gan ei gwneud hi’n hawdd cymhwyso gwybodaeth a sgiliau newydd i amgylchedd y gweithle. Mae'r cwrs 3 blynedd hwn yn cael ei addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ac yn cwmpasu sbectrwm eang o gynnwys fel: Rhaglennu a Datblygu Meddalwedd; Algorithmau a Chronfeydd Data; Datblygu Apiau Ffonau Symudol a'r We; a Diogelwch Cyfrifiadurol. Os ydych chi'n chwilio am gwrs gradd Prifysgol sy'n addas ar gyfer Prentisiaeth Technoleg Ddigidol yn eich cwmni, mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol. Mae'r cwrs wedi'i ariannu'n llawn, yn amodol ar gadarnhad gan MEDR, a byddai felly'n helpu'ch cwmni i lwyddo gyda Phrentis dawnus ac yn elwa ar y cyfle i ennill a dysgu.
Manteision i'r Gweithwyr
- Ennill a dysgu - datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd
- Adeiladu ar sgiliau cyfredol i ennill cymhwyster
- Cyfle i symud ymlaen o fewn eich cwmni
Manteision i'r Cyflogwr
- Sicrhau bod gan weithwyr a chyflogwyr y sgiliau i fod yn fwy cystadleuol
- Rhoi gwybodaeth gyfredol a pherthnasol i staff
- Mwy o gymhelliant ac ymrwymiad i'r cwmni neu'r sefydliad
- Rhoi hwb i hyder staff i gymhwyso eu sgiliau a'u gwybodaeth
- Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn helpu i godi proffil y sefydliad
- Datblygiad pellach o sgiliau meddal, e.e. sgiliau cyflwyno a chyfathrebu
Manteision Prentisiaeth Gradd
- Graddio gyda gradd lawn sy'n cael ei chydnabod gan y diwydiant ac yn drosglwyddadwy
- Cael cyfle i ddatblygu sgiliau newydd a gwneud cynnydd o fewn eich diwydiant
- Cael y cyfle i ‘ennill wrth ddysgu’ gan dderbyn cyflog (gan eich cyflogwr) a chyflogaeth wedi’i gwarantu yn ystod y rhaglen brentisiaeth
- Ennill hyd at 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol i ategu at eich gradd
- Graddio heb unrhyw ddyled myfyrwyr, gan fod yr holl ffioedd dysgu yn cael eu talu gan MEDR

Strwythur y Cwrs
Mae Blwyddyn 1

Blwyddyn 2

Blwyddyn 3
