Astudiaeth Achos: Rhun Llwyd

adminAstudiaeth Achos, Degree Apprenticeship Case Study

Pan drefnodd Rhun Llwyd, athro TG Ysgol Bryn Tawe, fod tîm Technocamps yn cynnal gweithdai cyfoethogi STEM gyda’i ddisgyblion, ychydig a wyddai y byddai’r sesiynau’n ei ysbrydoli i fynd ar ei daith addysgol hollol newydd ei hun. Mae’r ysgol yn cynnal Cwrs Cyfrifiadureg Safon Uwch, ar y cyd ag ysgol bartner, ond roedd yn awyddus i ddatblygu ei darpariaeth yn is i lawr yr ysgol. 

Sefydlwyd y gweithdai ar gyfer disgyblion MAT Blwyddyn 9 yn yr ysgol, ac roedd Rhun yn wirioneddol obeithio y byddai’r disgyblion yn cael eu hysbrydoli digon i ddewis y pwnc er mwyn iddo allu dechrau cynnal cwrs TGAU. Ymatebodd llawer o’r disgyblion yn gadarnhaol iawn, ac ‘nawr mae yna ddigon ohonynt i ddechrau addysgu’r cwrs ym mis Medi 2020.

Fodd bynnag, nid dyna ddiwedd y stori. 

Cafodd Rhun ei hun yn mynychu’r gweithdai gyda’i ddisgyblion, a chafodd ei syfrdanu gan yr hyn yr oeddent yn ei ddysgu. “Rhoddodd y gweithdai nifer o syniadau i mi ynglŷn â sut i addysgu Cyfrifiadureg mewn ffordd drawsgwricwlaidd. Roedd hyn yn sicrhau bod y gwersi yn ddiddorol iawn, yn enwedig i’r merched. Cefais hefyd flas ar ddefnyddio Greenfoot am y tro cyntaf.”

O ganlyniad i’w brofiad, aeth ati i ymgeisio am y rhaglen Gradd-brentisiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, lle y mae’n cwblhau ei BSc mewn Peirianneg Meddal- wedd Gymhwysol. “Mae’r cwrs wedi gwella fy sgiliau rhaglennu ac wedi cynyddu fy hyder a’m dealltwriaeth wrth addysgu’r cwrs Safon Uwch. Wrth drafod cysyniadau Cyfrifiadureg â’r disgyblion, mae gen i ‘nawr syniadau a phrofiadau mwy manwl i’w rhannu â nhw.”The course has improved my programming skills and increased my confidence and understanding in teaching the Advanced Level course. When discussing the concepts of Computer Science with the pupils I now have more in-depth ideas and experiences to share with the pupils.”

Mwy o wybodaeth am Radd-brentisiaethau Abertawe mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwyso