- Cliciwch Dewis Ffeil a dewiswch y ffeil hoffech lanlwytho
- Bydd rhaid i'r ffeil cael ei lawrlwytho o naill ai'r Offeryn micro:bit Machine Learning neu gwefan micro:bit CreateAI a rhaid ei bod hi'n ffeil JSON!
- Gallwch lawrlwytho hwn ar y gwefannau hyn trwy glicio ar y botwm dewislen (tri dot) a chlicio Download all data samples.
- Pan fyddwch chi'n agor ffeil, mae'r gweithredoedd a gofnodwyd gennych yn ymddangos fel botymau.
-
Pan fyddwch yn clicio ar unrhyw weithred, bydd 4 graff yn ymddangos:
- Mae'r 3 graff cyntaf yn dangos cyfesurynnau x, y a z o'r Recordiadau. Gallwch ddefnyddio'r rhain i benderfynu pa mor debyg yw eich Recordiadau!
- Mae'r graff olaf yn dangos y cyfesurynnau x, y a z o un Recordiad ar y tro. Mae gwymplen yn gadael i chi ddewis pa Recordiad i ymchwilio iddo.
Mae gan bob un o'ch graffiau isod yr offer hyn:
- Bydd clicio ar y Recordiadau ar frig pob graff yn gwneud iddynt ymddangos a diflannu. Gallwch ddefnyddio hwn i helpu i ganfod pa Recordiadau sy'n debyg.
- Mae'r tri graff cyntaf (x, y a z) yn arddangos y cydberthynas o'r Recordiadau - mae hyn yn golygu pa mor debyg ydyn nhw. Wrth i chi wneud i'ch Recordiadau ymddangos/diflannu bydd y rhifau hyn yn newid i ddangos y gydberthynas ar gyfer y Recordiadau y gallwch eu gweld! Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer canfod pa Recordiadau sy'n debyg.
- Bydd clicio Toglo'r Tabl yn gwneud i'r tabl o dan y graff ymddangos a diflannu.
- Bydd hofran dros unrhyw bwynt yn dweud wrthych ei werth.
- Mae eich model Dysgu Peirianyddol yn gweithio trwy ddod o hyd i batrymau yn eich Recordiadau - ond mae hyn yn anodd!
- I ddod o hyd i batrymau mae angen i'ch Recordiadau fod yn debyg. Os yw'ch holl Recordiadau'n edrych yn wahanol iawn, yna bydd yn anodd iawn i'ch model ddod o hyd i batrymau (bydd yn dal i geisio dyfalu yn wael!).
- Ond, os yw eich holl Recordiadau yr un peth yna does dim patrymau!
- Mae hyn yn gwneud pethau'n anodd! Gall yr offeryn hwn eich helpu i ddadansoddi a gall eich helpu i wella eich model Dysgu Peirianyddol.
- Mae'r graffiau yn ffordd dda o wirio a yw eich Recordiadau yn debyg gyda'ch llygaid. Os ydyn nhw'n edrych yn debyg yna mae'ch data'n dda. Os ydynt yn edrych yn wahanol iawn yna mae eich data efallai yn wael.
-
Mae'r cydberthnasau yn ffordd dda o wirio a yw eich Recordiadau yn debyg gyda mathemateg! Cydberthynas yn golygu pa mor debyg yw pethau - mae gan eich graffiau ddau gydberthynas:
- Mae'r Cydberthynas Siâp yn dweud wrthych pa mor debyg yw siâp eich Recordiadau - mewn geiriau eraill pa mor dda mae'r llinellau'n cyfateb. Os yw eich llinellau yr un fath bydd ganddynt 100% gydberthynas, os yw eich llinellau yn hollol i'r gwrthwyneb bydd ganddynt -100% gydberthynas.
- Mae'r Cydberthynas Syfliad yn dweud wrthych pa mor debyg fyddai eich Recordiadau pe baent yn cael eu symud i'r chwith neu'r dde - mewn geiriau eraill pe baech yn eu gosod yn eu trefn orau ag y gallech. Byddwch yn ofalus gan nad yw'r gydberthynas hon yn poeni am siâp, felly gall y nifer fod yn uchel iawn hyd yn oed os nad yw'r Recordiadau yn edrych yn debyg iawn!
- Cliciwch Dewis Ffeil a dewiswch y ffeil hoffech lanlwytho
- Bydd rhaid i'r ffeil cael ei lawrlwytho o naill ai'r Offeryn micro:bit Machine Learning neu gwefan micro:bit CreateAI a bod yn ffeil JSON!
- Gallwch lawrlwytho hwn ar y gwefannau hyn trwy glicio ar y botwm dewislen (tri dot) a chlicio Download all data samples.
- Pan agorir JSON, bydd pob un o'r gweithredoedd a gofnodwyd gan ddefnyddio'r offer Machine Learning neu CreateAI yn ymddangos fel botymau. Dangosir pob gweithred fel tab ar wahân - h.y. ni ellir cymharu'r gweithredoedd â'r naill a'r llall.
-
Ar gyfer pob gweithred, bydd 4 graff yn ymddangos:
- Mae'r 3 graff cyntaf yn dangos cyfesurynnau x, y a z yr holl Recordiadau - gellir defnyddio'r rhain i bennu cysondeb pob Recordiad, ac a yw unrhyw rai yn dra gwahanol. Dangosir system gyfesurynnol y micro:bit ar y chwith.
- Mae'r graff olaf yn arddangos cyfesurynnau x, y a z o un Recordio ar y tro. Mae cwymplen yn eich galluogi i ddewis pa Recordiad i ymchwilio iddo.
Gellir ymchwilio i bob graff isod gan ddefnyddio’r canlynol:
- Bydd clicio ar bob Recordiad/Echel yn yr allwedd o bob graff yn toglo ei welededd Gellir defnyddio hwn i helpu i ganfod pa Recordiadau sy'n gyson a pha rai sy'n allanolion.
- Mae'r tri graff cyntaf yn dangos cydberthynas y data. Dyma yw pa mor agos mae pob un o'r Recordiadau (ar gyfer y cyfesuryn penodol) yn cyfateb. Darperir hyn fel canran ar gyfer dealladwyedd. Bydd cyfuno gwelededd Recordiadau yn newid y gydberthynas i adlewyrchu'r data a ddewiswyd. Gall hyn hefyd helpu i ddod o hyd i allanolion.
- Bydd clicio Toglo'r Tabl yn toglo'r tabl sy'n cynnwys gwerthoedd pob pwynt data o bob Recordiad/Echelin gweladwy.
- Bydd Hofran dros unrhyw bwynt yn dweud wrthych ei werth.
- Er mwyn i Dysgu Peirianyddol weithio, rhaid i batrymau fod yn bresennol yn y data, ond nid yw hon yn wyddoniaeth fanwl gywir!
- Bydd rhaid i'r data a gofnodwyd ar gyfer pob gweithred fod yn weddol tebyg er mwyn i batrymau cael eu canfod - os yw'r Recordiadau ar gyfer gweithred yn dra gwahanol yna bydd yn anodd iawn i'r model ddod o hyd i unrhyw batrymau realistig (er y bydd yn dal i geisio gan dychwelyd canlyniadau annisgwyl!).
- Fodd bynnag, pe bai'r holl Recordiadau ar gyfer gweithred yn union yr un fath yna ni fyddai unrhyw batrymau i'w gweld (gan mai dim ond yr union batrwm hwnnw fyddai'n cael ei gofrestru fel y weithred honno).
- Mae hwn yn gydbwysedd bregus, a gall yr offer ar y dudalen hon helpu i ddadansoddi eich Recordiadau a gall helpu i wella effeithiolrwydd eich modelau Dysgu Peirianyddol.
- Mae'r graffiau yn rhoi arwydd gweledol da i weld a yw data yn debyg. Os yw'r cromliniau'n edrych yn debyg yna mae'r data'n dda. Os oes patrymau hollol wahanol, yna mae'r data yn debygol yn wael.
-
Mae'r cydberthynas hefyd yn gallu rhoi arwydd mathemategol da i weld a yw data yn debyg. Rhoddir dau fesur o gydberthynas:
- Mae'r Cydberthynas Siâp yn diffinio pa mor dda y mae pob un o’r Recordiadau yn cyfateb ar sail eu siâp (h.y. pa mor dda mae’r llinellau’n cyfateb). Bydd gan linellau sy'n cyfateb yn berffaith 100% gydberthynas, bydd gan llinellau sy'n hollol i'r gwrthwyneb -100% gydberthynas. Nodwch nad yw hwn yn cymryd unrhyw atred (ar hyd yr echelin-x) i ystyriaeth, ac felly bydd yn rhoi gwerthoedd cydberthyniad isel i Recordiadau sy'n cael eu gwrthbwyso oddi wrth ei gilydd, ond sydd â siâp union yr un fath. Mae hyn yn defnyddio'r Cydberthynas Pearson.
- Mae'r Cydberthynas Syfliad yn diffinio pa mor dda y byddai pob un o'r Recordiadau yn cyfateb pe baent yn cael eu symud (gwrthbwyso) i'w haliniad gorau posibl. Mae hyn yn bychanu pwysigrwydd siâp (trwy gydberthyn yn ôl amlder) a dylai ei gymryd gyda gronyn o halen (gan y gall gwerthoedd fod yn gamarweiniol o uchel). Mae hyn yn defnyddio'r Cydberthynas Pearson Addasedig (Cyfnod Sefydlog).
Gwerthoedd-X
Shape Correlation: 0.00%
Shift Correlation: 0.00%
Gwerthoedd-Y
Shape Correlation: 0.00%
Shift Correlation: 0.00%
Gwerthoedd-Z
Shape Correlation: 0.00%
Shift Correlation: 0.00%