Gradd-brentisiaethau

Mae ein rhaglen Gradd-brentisiaethau yn cyfuno dysgu academaidd traddodiadol mewn amgylchedd Prifysgol â phrosiectau seiliedig ar waith sy'n galluogi myfyrwyr i gymhwyso eu gwybodaeth academaidd newydd i'w rolau yn eu cwmnïau. Mae'r rhaglen arloesol hon yn galluogi'r myfyrwyr i ennill arian a dysgu – i aros mewn cyflogaeth lawn-amser ac ennill gradd BSc (Anrh), sy'n rhoi eu haddysg academaidd yng nghyd-destun amgylchedd eu gweithle.

Ariennir y cyrsiau'n llawn, gyda chymorth gan Sefydliad Codio yng Nghymru a Llywodraeth Cymru trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae'r Sefydliad Codio yng Nghymru yn bartneriaeth fawr a arweinir gan Prifysgol Abertawe, sy'n rhan o'r Sefydliad Codio Cenedlaethol yn Lloegr. Fe'i sefydlwyd i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau digidol a nodwyd yn y gweithlu ac i feithrin y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr digidol. Mae ein rhaglen Gradd-brentisiaethau, a ragwelwyd yn wreiddiol fel ffordd i helpu i unioni 'prinder sgiliau' ym maes Cyfrifiadureg yng Nghymru, yn hynod o boblogaidd, ac mae yna gyrsiau Cyfrifiadureg yn cael eu cynnig (neu wrthi'n cael eu datblygu) ym mhob Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru.

For more information, email info@technocamps.com.