Eisteddfod Genedlaethol 2022: Technocamps yn Nhregaron

adminNewyddion

Roeddwn ni'n falch iawn i gymryd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron rhwng 30 Gorffennaf - 6 Awst.

Cynhaliodd ein stondin ar y Maes amrywiaeth o weithgareddau yn ystod yr wythnos ar gyfer pob oedran megis rhaglennu robotiaid a chodio. Daeth tîm Technocamps o Brifysgol Bangor â'u ciwb Rubik, a oedd yn boblogaidd iawn ymhlith plant ac oedolion. Roeddem yn arddangos sut i raglennu robot i ddatrys y pos.

Roedd Prifysgol Abertawe yn un o brif noddwyr Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod lle’r oedd ein stondin. Roedd ymwelwyr o fyd addysg, gwleidyddiaeth a’r celfyddydau ymhlith y rhai oedd yn cymryd rhan yn y gweithgareddau ar ein stondin ac yn cerdded i ffwrdd gyda rhai o’n nwyddau melyn enwog.

Tan y flwyddyn nesaf ym Moduan!