Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun a'ch gwaith.
My name is Daniel Davies, and I am a teacher at a Primary School that teaches through the Welsh language. At the moment, I teach Year 6.
Sut ddechreuoch chi weithio gyda Technocamps?
Roeddwn yn teimlo bod angen gwella fy sgiliau digidol er mwyn addysgu yn unol â gofynion y fframwaith ar gyfer plant ysgol gynradd. Gwnes i ymchwil i ddarparwyr cyrsiau datblygiad proffesiynol ac i weld pwy allai ddarparu cefnogaeth i ysgolion trwy weithdai amrywiol i ddisgyblion oedran y cynradd yn yr ardal yma.
Pa ran o'r gwaith gyda Technocamps sydd wedi bod fwyaf buddiol i chi, a pham?
Yn bersonol, roedd cwblhau rhaglen Achrededig Datblygiad Proffesiynol Technocamps ar gyfer ysgolion cynradd (2023-2024) yn brofiad amhrisiadwy. Cafodd effaith enfawr ar fy hyder wrth addysgu sgiliau digidol i ddisgyblion o bob oedran. Roedd dysgu am feddylfryd cyfrifiadurol yn arbennig o fuddiol, gan ei fod wedi helpu disgyblion Blwyddyn 6 i ddatblygu dull strwythuredig o ddatrys problemau, nid yn unig ym maes cyfrifiadureg ond hefyd mewn meysydd ehangach. Ers hynny rwyf wedi cael Technocamps yn yr ysgol yn ddiweddar i ddatblygu mwy o sgiliau digidol y disgyblion gyda’u gweithdai arloesol.
Sut ydych chi'n meddwl bod y sgiliau a'r wybodaeth a ddarperir gan Technocamps yn cael eu defnyddio yn eich gwaith o ddydd i ddydd?
Mae’r sgiliau a’r wybodaeth rwyf wedi’u hennill trwy Technocamps yn cael eu hymgorffori’n naturiol yn fy addysgu bob dydd. Rwy’n defnyddio’r dull meddylfryd cyfrifiadurol wrth helpu disgyblion i fynd i’r afael â phroblemau mewn gwahanol feysydd dysgu, gan gynnwys mathemateg a gwyddoniaeth. Mae’r sgiliau codio a rhaglennu rwyf wedi’u datblygu wedi fy ngalluogi i ddarparu cyfleoedd ymarferol i ddisgyblion, megis creu a dadgodio negeseuon gan ddefnyddio Micro:bits a defnyddio Scratch. Rydw i hefyd yn hyderus i ddarparu hyfforddiant i staff yr ysgol am yr hyn a ddysgwyd yn ystod y cwrs. Yn ogystal, mae fy hyder wrth ddefnyddio technoleg wedi cynyddu, gan fy ngalluogi i wneud gwersi’n fwy rhyngweithiol ac ymgysylltiol.
A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu?
Ni allwn argymell Technocamps ddigon i athrawon sydd am wella eu dealltwriaeth o gyfrifiadureg. Mae’r gefnogaeth a gynigir yn amhrisiadwy, ac mae’r gweithdai yn cynnig cyfleoedd gwych i ddisgyblion ddatblygu sgiliau digidol hanfodol mewn ffordd hawdd ac ymarferol.
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.