Rydym wrth ein bodd yn rhannu ein bod wedi cael ein dewis fel un o’r ymgeiswyr terfynol ar gyfer categori Rhaglen Addysgol y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus) yng Ngwobrau STEM Cymru 2025!
Rydym yn falch o gael ein cydnabod am ein gwaith yn mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau digidol ac yn cefnogi dysgwyr, athrawon, addysgwyr a’r cyhoedd i ffynnu mewn byd digidol.
Mae’r wobr hon yn dathlu sefydliadau’r sector cyhoeddus sy’n rhedeg mentrau sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, yn mynd i’r afael â’r bwlch amrywiaeth STEM, ac yn ymateb i’r prinder sgiliau, cydnabyddiaeth sydd wrth wraidd popeth a wnawn yn Technocamps. Clod mawr i'n tîm anhygoel am wneud i hyn ddigwydd!
