Case Study: Amy Johnson

Paige JenningsAstudiaeth Achos, Staff

Can you describe your experience working at Technocamps?

    Mae fy mhrofiad fel intern haf yn Technocamps wedi bod mor hwyl ac ysbrydoledig. O’r dechrau, teimlais groeso a chefnogaeth, ac mae hi wedi bod yn anhygoel bod yn rhan o dîm sydd nid yn unig yn hynod gyfeillgar a phleserus i weithio gyda ond sydd hefyd yn angerddol am wneud addysg gyfrifiadurol yn fwy hygyrch a diddorol i bobl ifanc. Roedd eu hegni a’u brwdfrydedd yn heintus, ac fe wnaeth bob diwrnod deimlo’n unigryw ac yn anghofiadwy.

    What activities or workshops have you been involved in during your time at Technocamps?

      Yn ystod fy amser yn Technocamps, rydw i wedi cael y cyfle i fod yn rhan o amrywiaeth eang o weithdai a phrosiectau, a gyflwynwyd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Creais ddau weithdy AI, un wedi’i gynllunio i gyflwyno disgyblion CA2 i hanfodion AI mewn ffordd hwyl a hygyrch, ac un arall wedi’i anelu at addysgu athrawon ar beth yw AI a sut gallant ddefnyddio i gefnogi eu haddysgu a lleihau llwyth gwaith.

      Cefnogais a chyflwynais nifer o weithdai roboteg ar gyfer CA2 a CA3, gan weithio gyda disgyblion ym Mlynyddoedd 3 i 9. Roedd y rhain yn cynnwys cystadlaethau roboteg flynyddol Dde-ddwyrain a De-orllewin Cymru, lle helpais i gefnogi myfyrwyr wrth iddynt adeiladu a rhaglennu eu robotiaid. Helpais hefyd i gynnal gweithdy Micro:bit i ddysgwyr 7 i 18 oed.

      Cefais y cyfle i gyfrannu at addysg gyfrifiadura cyfrwng Cymraeg drwy godio’r robot OhBot ar gyfer clip teledu Cymraeg a chyfieithu sleidiau darlithoedd a labordy cyfrifiadureg blwyddyn sylfaen i’r Gymraeg. Gan ddod o gefndir academaidd cyfrwng Cymraeg, roedd yn arbennig cyfuno fy sgiliau iaith a thechnegol i helpu i gefnogi dysgu dwyieithog a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fyfyrwyr.

      Can you share any specific highlights or memorable moments from working with Technocamps?

        Un o rannau mwyaf cofiadwy oedd cefnogi cystadlaethau roboteg Dde-ddwyrain a De-orllewin Cymru. Roedd yn brofiad mor hwyl! Roedd gweld y disgyblion yn gyffrous am gwblhau’r heriau ac yn dangos eu robotiaid yn fy ngwneud yn hynod hapus.

        What have been some of the key learnings or growth experiences for you since starting at Technocamps?

          Un o’r ardaloedd twf mwyaf i mi yn ystod fy amser yn Technocamps yw meithrin hyder wrth weithio gyda phobl ifanc a chefnogi eu dysgu. Wnes i ddim arwain gweithdai, ond roedd bod yn rhan o’r tîm cyflwyno yn rhoi cyfle i mi ryngweithio â disgyblion trwy ateb eu cwestiynau, eu tywys trwy heriau, a gweld eu cyffro pan fyddent yn llwyddo. Fe wnaeth y profiad fy helpu i deimlo’n fwy cyfforddus yn cyfathrebu syniad technegol.

          Dysgais hefyd sut i addasu fy iaith a fy esboniadau yn dibynnu ar y grŵp oedran a’r amgylchedd. Roedd esboniadau ar gyfer sesiynau roboteg Blwyddyn 3 yn edrych yn wahanol i sesiynau Blwyddyn 9. Roedd cefnogi gweithdai yn Saesneg a Chymraeg yn ystyrlon i mi, ac fe wnaeth i mi werthfawrogi’n fwy sut mae iaith yn gwneud dysgu’n fwy hygyrch ac yn haws.

          A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu?

          Rwyf am fynegi pa mor ddiolchgar ydw i am y cyfle i fod yn rhan o Technocamps yr haf hwn. Mae’r profiad wedi bod yn hynod o werthfawr, nid yn unig o ran y sgiliau rydw i wedi’u datblygu, ond hefyd y bobl anhygoel rydw i wedi gweithio gyda. Hoffwn estyn diolch fawr iawn i dîm cyfan Technocamps am fod mor groesawgar, cefnogol, a hwyl i weithio gyda. Mae’r brofiad wedi bod yn gwych, ac rydw i wedi dysgu cymaint o’r gwaith a’r bobl o’m cwmpas.