UK Shared Prosperity Fund
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i ddarparu cyfleoedd uwchsgilio digidol i ranbarthau ar draws De Cymru. Darparwyd y cyllid hwn gan gynghorau sir Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg a Phowys, ac mae wedi gweld miloedd o unigolion ar draws y rhanbarthau hyn yn cymryd rhan yn ein hymyriadau hyfforddiant digidol.
Mae’r cyllid hwn wedi ein galluogi i ddarparu llwybr digidol i unigolion waeth beth fo’u cefndir. Trwy ein sesiynau cyflwyniadol a sgiliau hanfodol, ein cyrsiau byrion a’n Microgymwysterau achrededig, rydym wedi gweld dysgwyr yn datblygu eu sgiliau digidol a’u dealltwriaeth, gyda rhai wedyn yn cymryd y cam nesaf i’n rhaglen Prentisiaeth Gradd Peirianneg Meddalwedd. Mae ein harlwy wedi ymdrin â phynciau fel rhaglennu Python a Dadansoddeg Data, Hanfodion Seiberddiogelwch a Dysgu Peirianyddol, yn ogystal â Phrofi Meddalwedd.
Yn ogystal â’n heffaith arferol gydag ysgolion ac ymarferwyr trwy ein gweithdai a’n sesiynau hyfforddi, mae’r cyllid hwn sydd wedi’i ganolbwyntio mewn rhanbarthau wedi arwain at fwy o gydweithio â phrosiectau lleol i gynyddu ein heffaith o fewn cymunedau. Rydym wedi gweithio gyda phobl ifanc yn INSPIRE Training, yr YMCA ac wedi cyflwyno sesiynau i grwpiau mewn llyfrgelloedd ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Rydym hefyd wedi bod yn cynnal sesiynau rheolaidd yn Theatr Volcano i godi ymwybyddiaeth o’r datblygiadau diweddaraf mewn AI a sut i’w ddefnyddio’n gyfrifol, yn ogystal â gwybodaeth am seiberddiogelwch ac olion traed digidol ar-lein.
