Technocamps a'r Sefydliad Codio yng Nghymru | Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2023
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu Menywod mewn STEM a 20 mlynedd o Technocamps.
Mae dathliad blynyddol Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ITWales yn rhoi cipolwg o'r amrediad amrywiol o gyfleoedd sydd ar gael o ran busnes a gyrfaoedd i fenywod yn yr 21ain Ganrif. Mae’n cynnig platfform i fenywod ar gyfer rhannu profiadau, gwybodaeth ac arfer gorau, yn arbennig y rhai hynny sy'n gweithio ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg.
Bydd y digwyddiad yn arddangos y gwaith sy'n cael ei wneud gan fusnesau, elusennau a phrosiectau ledled Cymru i annog merched i astudio a gweithio yn y sectorau STEM. Croeso i bawb!
Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy'n dathlu cyflawniadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol menywod yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Bob blwyddyn, mae miloedd o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y byd, i ysbrydoli a dathlu cyflawniadau. Mae gwe fyd-eang o weithgarwch cyfoethog ac amrywiol yn cysylltu menywod o bedwar ban y byd, yn cynnwys ralïau gwleidyddol, cynadleddau busnes, gweithgareddau llywodraethau, a digwyddiadau rhwydweithio.
Get your free ticket yma.
Noddir y digwyddiad hwn gan Admiral.