Cystadleuaeth Gêm y Codau 2026

Mae Gêm y Codau YN ÔL!


Mae Gêm y Codau yn ôl gyda Chystadleuaeth Rhaglennu Gêm y Codau Cenedlaethol Technocamps ledled Cymru. Bydd y gystadleuaeth yn galluogi disgyblion sydd â diddordeb i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a gwaith tîm wrth wella eu gwybodaeth am raglennu cyfrifiadurol mewn ffordd hwyliog a dyfeisgar.

Image
Image

Y Dyfodol: Dychmygu Addysg yn 2050


Eleni, rydym yn eich gwahodd i gamu i'r dyfodol a dychmygu sut olwg fydd ar addysg yn y flwyddyn 2050. Sut fydd technoleg yn trawsnewid dysgu? Pa offer fydd myfyrwyr ac athrawon yn eu defnyddio? Sut fydd creadigrwydd, cydweithio ac arloesedd yn ailddiffinio ystafelloedd dosbarth?

Eich her yw creu darn o feddalwedd sy'n archwilio Addysg yn 2050. Meddyliwch yn eang:

  • A fydd ystafelloedd dosbarth yn gwbl rithwir?
  • A fydd tiwtoriaid AI yn personoli dysgu ar gyfer pob myfyriwr?
  • A allai efelychiadau trochi ddisodli gwerslyfrau?

Rhaid i'ch meddalwedd fod â dyluniad gwreiddiol a allai fod ar ffurf —gêm, ap, gwefan, cwis, neu animeiddiad—a dylai gyflwyno'ch gweledigaeth o addysg y dyfodol mewn ffordd ddiddorol a gwreiddiol. Defnyddiwch unrhyw iaith godio rydych chi'n ei hoffi (Scratch, Python, Java, HTML, ac ati), ac mae croeso i chi ymgorffori caledwedd fel Raspberry Pi neu BBC micro:bits.

Gallwch gystadlu fel tîm neu fel unigolyn. Rhaid i bob cais ddarparu cyswllt athro (neu arweinydd clwb/rhiant) a chael cefnogaeth eu hysgol cyn cofrestru. Nid oes cyfyngiad ar nifer y timau/unigolion o ysgol gall gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Gwybodaeth Allweddol