Technoclub: Clwb codio 6-wythnos

adminDigwyddiad

Ymuna â chlwb codio rhithwir Technocamps! Bydd pob rhanbarth Technoclub yn darparu sesiwn wythnosol RHAD AC AM DDIM lle byddi di'n dysgu sgiliau Cyfrifiadureg newydd wrth weithio tuag at nod prosiect terfynol. Mae'r clwb wedi'i anelu at bob lefel o allu (9-16 oed) a dim ond mynediad i'r rhyngrwyd sydd ei angen.

Bydd y sesiwn gyntaf ar 2il Tachwedd, a bydd y clwb yn parhau tan 7 Rhagfyr. Dyddiau i'w cyhoeddi (yn ddibynnol ar y gofyn), 4.30-6.30pm. Os oes gennyt ti unrhyw gwestiynau, e-bostia info@technocamps.com. info@technocamps.com.