Clwb Codio Ar ôl Ysgol Technocamps 2018-2019 yn ail-gychwyn!

adminNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Trosolwg: 

Yn y Clwb Codio ar ôl Ysgol, bydd amrywiaeth eang o bynciau cyfrifiadurol yn cael eu cwmpasu gan ddefnyddio amrywiaeth o ieithoedd rhaglennu (Greenfoot, Logo, Python, BBC micro: bit, Scratch, Lego Mindstorm a hefyd rhywfaint o theori a gweithgareddau ymarferol hwylus sy'n seiliedig ar Feddwl Cyfrifiadurol.) 

Rydym yn croesawu plant o 7 i 16 oed heb brofiad neu wybodaeth flaenorol ar godio a rhaglennu wrth i ni ddechrau ein pwnc o'r pethau sylfaenol. 

Rhennir fformat y clwb yn ddwy slot amser gwahanedig, naill ai rhwng 16:00-17:00 neu 17:00-18:00. Er bod amser cychwyn y clybiau yn wahanol, nid ydynt mewn unrhyw ffordd yn cael eu darparu mewn ffordd wahanol, dim ond i ddarparu ar gyfer y nifer helaeth o ddisgyblion sy'n dymuno mynychu.

Sut i Gofrestru:

I gofrestru'ch plentyn ar gyfer y clwb, rhaid i chi lenwi'r ffurflen gan ddefnyddio'r ddolen isod:

https://goo.gl/forms/J7aEaQ4uxips1yqr2

Os oes gennych fwy nag un plentyn i gofrestru, llenwch y ffurflen ar gyfer pob plentyn sy'n mynychu. Bydd lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, gyda 25 lle ar gael ym mhob sesiwn.

Gwybodaeth bellach:

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Glwb Codio Technocamps, mae croeso i chi gysylltu â ni yn: 

afterschoolcodingclub@technocamps.com