Galw holl athrawon Ysgolion Cynradd Cymru! Rhaglen Ardystiedig Athrawon

adminDigwyddiad, Newyddion

Yn dilyn llwyddiant y sesiynau hyfforddi rhithwir a gynhaliwyd gennym ar gyfer athrawon ysgolion cynradd yn ystod y cyfyngiadau symud, rydym yn falch o allu cynnig rhaglen lawn o gymorth i athrawon ysgolion cynradd o ddiwedd mis Medi hyd at 2021.

Bydd y sesiynau DPP rhad ac am ddim hyn yn cael eu cynnal trwy'r flwyddyn ysgol gyda'r cyfle i gofrestru ar y rhaglen ar ddechrau pob tymor ysgol. Nod y sesiynau hyn yw gwella gwybodaeth athrawon am Gyfrifiadureg a Meddwl Cyfrifiannol, a chymhwyso'r sgiliau hyn yn yr ystafell ddosbarth ac yn strategol ledled eu hysgol.

Mae'r rhaglen DPP yn cysylltu â'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ac yn gweithio ledled Meysydd Dysgu a Phrofiad newydd y cwricwlwm newydd. Trwy gymryd rhan yn y rhaglen hon, bydd Athro yn ennill cydnabyddiaeth Technocamps fel 'Athro Ardystiedig Technocamps', neu gall Ysgol gyflawni statws 'Ysgol Ardystiedig Technocamps' ar lefel Efydd, Arian, neu Aur.

Bydd dyfarniadau unigol yn seiliedig ar athrawon unigol yn cwblhau rhaglen Hyfforddi Athrawon (DPP) Technocamps 2020-2021. Bydd dyfarniadau ysgolion yn cydnabod ymrwymiad yr ysgol i uwchsgilio digidol ac yn adlewyrchu nifer yr athrawon sydd wedi cwblhau'r rhaglen mewn ysgol. Cynhelir sesiynau rhwng 2-4pm i adlewyrchu ymrwymiad personol ac ymrwymiad yr ysgol i ddatblygiad digidol.