Cystadleuaeth Pecynnau Gweithgareddau

adminCystadleuaeth

CYSTADLEUAETH AR GAU

Mae ein Pecynnau Gweithgareddau wedi cadw plant yn llawn cymhelliant dros yr haf ac maen nhw wedi bod yn boblogaidd iawn. Mae ein tîm addysgu wedi datblygu taflenni gwaith, fideos a chwisiau gwych: technocamps.com/cy/activity-packs

Mae gan ddisgyblion y cyfle i weithio trwy'r pecynnau a chyflwyno eu gwaith i'r tîm. Yna, byddant yn cael eu hychwanegu at ein harwainfwrdd gyda chyfle i ennill robot Sphero ar gyfer eu hysgol yn ogystal â thaleb Amazon gwerth £50 i'r myfyriwr gorau. Ond brysiwch, mae'r dyddiad cau ar y gweill! Bydd y byrddau yn cael eu cwblhau am 4pm ddydd Gwener 23ain Hydref a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi!

Yr arweinwyr ar hyn o bryd yw Monmouth Comprehensive a Newton Primary ond gall popeth newid!

Trydarwch ni @Technocamps gan ddefnyddio #TechnocampsOnline i'n dangos eich gwaith ac i ennill pwyntiau ychwanegol...

POB LWC!