Gweminar GiST: Rosie Cane

adminDigwyddiad

Awr Mewn Bywyd Menyw Mewn STEM

Ydych chi erioed wedi ystyried gwneud trydan o'r haul, gweithio yn NASA neu ymchwilio Astrobioleg?

Mae gennym gyfres o fenywod ysbrydoledig mewn STEM sydd eisiau siarad â chi am eu swyddi a sut y cawsant nhw! Bydd pob un yn siarad am ei yrfa, yn eich tywys o amgylch eu gweithle ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am eu swydd. Pwy a ŵyr, fe allech chi fod yn gweithio gyda nhw yn y dyfodol ...

2-3pm, Dydd Llun 25ain Ionawr 2021

Siaradwr:

Rosie Cane - Ymchwilydd Doethuriaeth Astrobioleg

Rwy'n fyfyriwr PhD yn fy flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caeredig. Rwy'n ymchwilio Astrobioleg a bywyd mewn amgylcheddau eithafol. Fe wnes i fy ngradd israddedig yn BSc Seryddiaeth Arsylwadol ym Mhrifysgol De Cymru a chwblheais interniaeth gydag Asiantaeth Ofod y DU. Rwy'n frwdfrydig am allgymorth ac ymgysylltu â'r cyhoedd ac rwy'n hoff iawn o unrhyw beth sy'n ymwneud â'r gofod!