Cystadleuaeth Pecynnau Gweithgaredd Newydd

adminCystadleuaeth, Newyddion

CYSTADLEUAETH AR GAU

We’re offering prizes to the schools and pupils who complete the most activity packs on our website before Friday 26th March 2021.

Gydag ysgolion yn cau unwaith eto, rydyn ni'n deall bod hwn yn gyfnod heriol ar gyfer rhieni, athrawon a disgyblion. Mae hyn yn golygu na allwn gynnig gweithdai neu weithgareddau corfforol gyda disgyblion, ryydn ni am eich atgoffa bod ein Pecynnau Gweithgaredd wastad ar gael. 

Y nod yw cynnal momentwm a chymhelliant disgyblion, tra iddynt hefyd gael rhywfaint o hwyl a dysgu am Gyfrifiadura, TG a phynciau STEM eraill. Hefyd, mae ein gwefan newydd yn ei gwneud hi'n haws nag erioed i wneud ein pecynnau gweithgaredd a chymryd rhan yn ein cystadleuaeth.

Cwblhaodd cannoedd o gyfranogwyr ein taflenni gwaith, fideos, a chwisiau poblogaidd trwy gydol yr haf, gydag Ysgol Gyfun Trefynwy, Ysgol Gynradd Newton, Archie o Ysgol Gyfun Trefynwy a Josh o Ysgol Gynradd Newton i gyd yn ennill gwobrau.

Anogir disgyblion i weithio trwy'r pecynnau a chyflwyno eu gwaith i dîm Technocamps. Yna byddant yn cael eu hychwanegu at fwrdd arweinwyr Technocamps gyda chyfle i ennill gwobrau i'w hysgol a'u hunain.

Bydd rhagor o adnoddau yn cael eu hychwanegu cyn bo hir felly cadwch lygad allan.

POB LWC!