Free Virtual Workshops

adminNewyddion

We’ve been working hard to develop a whole host of virtual workshops for primary and secondary school ages. Workshops are currently virtual via live streaming into classrooms throughout Wales. All workshops are fully funded by support from the Welsh Government.

Uwchradd

Rydyn ni'n gweithio gydag ysgolion uwchradd yng Nghymru i ddarparu Rhaglenni Cyfoethogi STEM sy'n ymgysylltu â disgyblion trwy ddarparu ystod o weithdai cyfrifiadureg a STEM gan gynnwys rhaglennu yn Python, Little Man Computer, Greenfoot a Robotics.

These workshops are aimed at Key Stages 3 & 4 and are held during the school day in term times.

Each workshop will be delivered to a classroom virtually through a teachers computer connected to a whiteboard/projector. This will require a web camera, speakers and microphone. In addition, all pupils will need to have a pen, pencil and paper available to them

Cryptograffeg | Heb ddyfais electronig | 2 x sesiwn 1 awr

Bydd Sesiwn 1 yn ymdrin â chyflwyniad i gryptograffeg a thri seiffr gwahanol, ac mae yna daflenni gwaith ar-lein ychwanegol y gellir eu llenwi fel ymarfer. Bydd Sesiwn 2 yn ymdrin â seiffr olaf, ac wedyn bydd gan y disgyblion y cyfle i gymryd rhan yn ein fersiwn rithwir o’r gweithgaredd Break Into the Box, sy’n ffefryn enfawr o brofiadau blaenorol.

Mae sesiwn 2 yn gofyn am fynediad at gyfrifiadur, a hynny naill ai ar gyfer pob disgybl neu mewn grwpiau bach

Python Math | Gyda dyfais electronig | 3 x sesiwn 1 awr

Cyflwyniad i Python mewn ffordd weledol ac artistig. Mae Sesiwn 1 yn cyflwyno'r iaith raglennu Python, y bydd y disgyblion yn ei dysgu ac yn ei harchwilio trwy ddefnyddio Turtle. Bydd y disgyblion yn dysgu'r gorchmynion cychwynnol, ac yn gwella eu sgiliau meddwl cyfrifiadurol wrth iddynt ddatblygu eu gallu i raglennu. Mae Sesiwn 2 yn dechrau edrych ar offer mwy cymhleth sy'n cael eu defnyddio ledled cyfrifiadureg, megis for-loops, datganiadau IF, ac adborth defnyddwyr. Yn sesiwn 3, bydd y myfyrwyr yn symud ymlaen i ddefnyddio rhestrau a llyfrgell ar hap Python i wneud gwaith rhaglennu eithaf datblygedig.

Mae'n ofynnol cael mynediad at gyfrifiadur a'r wefan repl.it

Efelychiadau Monte-Carlo | Gyda dyfais electronig | 3 x sesiwn 1 awr

Gall tebygolrwydd ac ystadegau fod yn llawer mwy na thynnu peli allan o fag neu dynnu cardiau o becyn cardiau. Mae efelychiadau Monte Carlo yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio tebygolrwydd ac ystadegau mewn ffordd newydd gyffrous. Bydd y myfyrwyr hynny sydd â dealltwriaeth o Python yn cael eu harwain trwy arbrofion diddorol, lle byddant yn defnyddio data a gynhyrchir ar hap i wneud darganfyddiadau diddorol, sy'n cynnwys taflu dartiau i ragfynegi pi a pham y mae'r casino bob amser yn ennill.

Mae'n ofynnol cael mynediad at gyfrifiadur a'r wefan repl.it

Planedau ac Orbitau | Gyda dyfais electronig | Sesiwn 1 awr

Mae'r haul yn troi o gwmpas y ddaear? Mae'r planedau'n troi mewn cylchoedd? Mae'r ddaear yn arnofio yn nŵr y nefoedd? Mae modelau hanesyddol o gysawd yr haul yn niferus ac, yn y mwyafrif o achosion, yn anghywir. Ewch ar daith trwy hanes i archwilio sut y bu i arsylwadau a mathemateg ein harwain at y modelau cyfredol o gysawd yr haul, ac wedyn bydd y disgyblion yn llunio eu modelau eu hunain ar-lein.

Mae'n ofynnol cael mynediad at gyfrifiadur a'r wefan geogebra.org

Gemau'r Ymennydd | Heb ddyfais electronig | 2 x sesiwn 1 awr

Mae'r gweithdy hwn yn annog y dysgwyr i ddefnyddio sgiliau meddwl cyfrifiadurol a sgiliau datrys problemau i gyflawni heriau cydweithredol, a hynny'n unigol ac mewn timau bach. Bydd y dysgwyr yn cyflawni nifer o heriau sy'n cynnwys tasgau corfforol a meddyliol a fydd yn datblygu eu sgiliau cydweithredu, cyfathrebu, datrys problemau a meddwl cyfrifiadurol.

Bydd angen beiro, papur, pecyn o sbageti, a Blu Tack.

Mae'n Hawdd bod yn Wyrdd | Heb ddyfais electronig | 2 x sesiwn 1 awr

Diben y gweithdy hwn yw rhoi cyfle i'r disgyblion ddysgu am ynni adnewyddadwy ac ynni anadnewyddadwy. Bydd y disgyblion yn cael cyfle i ddylunio cynnyrch neu wasanaeth effeithlon o ran ynni sydd o fudd i'r cwsmer ac sy'n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Bydd y gwaith hwn yn seiliedig ar yr wybodaeth y maent wedi'i chaffael yn y gweithdy.

Mae'n ofynnol cael deunyddiau prototeip o 'sothach' sylfaenol.

Dosbarthu Anifeiliaid - Bioleg | Gyda dyfais electronig | 2 x sesiwn 1 awr

Mae'r gweithdy hwn yn rhoi cyfle i'r dysgwyr ddysgu popeth am grwpiau gwahanol o anifeiliaid, ac maent hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau meddwl cyfrifiadurol yn Scratch. Bydd y disgyblion yn cael cyfle i ddatblygu eu Coeden Ddwyrannol eu hunain yn Scratch, a fydd yn gwneud i'r rhaglen benderfynu o ba ddosbarth o anifeiliaid y daw'r anifail y maent yn meddwl amdano.

Mae'n ofynnol cael mynediad at gyfrifiadur a'r wefan Scratch.mit.edu, neu fod Scratch 3 wedi'i osod.

Tanio'r Dyfodol | Gyda dyfais electronig | 3 x sesiwn 1 awr

Mae'r sesiynau hyn yn edrych ar y dasg anodd sy'n wynebu cymdeithas yn y dyfodol agos, a'r modd i gynhyrchu digon o ynni i bweru'r byd. Mae'r sesiynau'n ymchwilio i ateb posibl i'n problemau ynni, gan fynd ati, ar yr un pryd, i feithrin sgiliau rhaglennu i ddatblygu model o adweithiau niwclear.

Mae'n ofynnol cael mynediad at gyfrifiadur a Scratch ar gyfer sesiynau 2 a 3.


Cynradd

Rydyn ni'n cynnig gweithdai cyffrous, arloesol a rhad ac am ddim mewn Saesneg neu Gymraeg a'u haddasu at bynciau'r flwyddyn. Mae gweithdai yn ymdrin â phynciau STEM, yn enwedig Cyfrifiadureg, gan ddefnyddio Scratch ac ieithoedd rhaglennu eraill i ddatrys problemau a meddwl cyfrifiadol sy'n gallu cael eu hintegreiddio'n llawn i'r cwricwlwm cynradd.

Mae'r sesiynau hyn wedi'u hanelu at Flynyddoedd 5 a 6, Cyfnod Allweddol 2 ac fe'u cynhelir yn ystod y diwrnod ysgol yn ystod y tymor.

Bydd pob sesiwn yn cael ei chyflenwi'n rhithwir i'r ystafell ddosbarth, a hynny trwy gyfrifiadur yr athro, a fydd wedi'i gysylltu â bwrdd gwyn/thaflunydd. Bydd yn ofynnol cael camera gwe, seinyddion a meicroffon. Yn ogystal, bydd gofyn i bob disgybl fod â beiro, pensil a phapur.

Meddwl Cyfrifiadurol | Heb ddyfais electronig | 90 munud

Gan ganolbwyntio ar bedwar llinyn meddwl cyfrifiadurol, bydd y sesiwn hon yn rhoi sgiliau allweddol i'r disgyblion y gellir eu defnyddio ym mhob sefyllfa mewn bywyd. Bydd y pynciau'n cynnwys algorithmau, haniaethu, dadelfennu ac adnabod patrwm. Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y myfyrwyr yn gallu defnyddio'r sgiliau y maent wedi'u dysgu i ddatrys problemau mewn ffyrdd hwyliog.

Technoleg, Moeseg a'r Dyfodol | Heb ddyfais electronig | 90 munud

Mae'r sesiwn hon yn sôn am beth yw technoleg, a sut y mae wedi esblygu dros amser i ddod yn dechnoleg yr ydym yn ei defnyddio yn ein bywydau bob dydd. Bydd yn rhaid i'r disgyblion feddwl y tu allan i'r bocs am y modd y gall technolegau gwahanol fod yn “glyfar”, a sut y gallant ein helpu yn y byd heddiw.

Dysgu Peiriant | Heb ddyfais electronig | 90 munud

Sut y mae Alexa yn deall yr hyn yr wyf yn ei ofyn iddi? Pwy yw'r chwaraewr tennis bwrdd gorau yn y byd? Ai crwban môr neu grwban yw hwn? Mae Dysgu Peiriant yn faes cyffrous a modern mewn cyfrifiadureg sy'n cael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd, o adnabod lleferydd i gemau. Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno hanfodion Dysgu Peiriant, pa ddefnydd a wneir o systemau Dysgu Peiriant, a'r modd y mae systemau Dysgu Peiriant yn gweithio.

Cyflwyniad i Scratch | Gyda dyfais electronig | 90 munud

Mae'r gweithdy hwn yn cyflwyno'r disgyblion i raglennu ar-lein Scratch, a byddant yn ei ddefnyddio i greu amrywiaeth o brosiectau trawsgwricwlaidd, megis llunio siapiau. Bydd yn ymdrin ag algorithmau, siapiau, rhifyddeg, llythrennedd, a llawer rhagor! 

Bydd y sesiynau'n ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr allu defnyddio cyfrifiadur a chyrchu https://scratch.mit.edu/ https://scratch.mit.edu/