Cystadleuaeth Cartref y Dyfodol

adminCystadleuaeth, Newyddion

MAE'R GYSTADLEUAETH HON NAWR AR GAU

Allwch chi greu gêm sy'n dangos effeithlonrwydd ynni yn y cartref a'r problemau sy'n gysylltiedig?

Mae ein cystadleuaeth newydd, mewn partneriaeth ag Energy Saving Trust a NEST, yn gofyn i ddisgyblion hyd at 16 oed ddylunio eu gêm eu hunain, gan ddefnyddio unrhyw feddalwedd rhaglennu, a fyddai’n gwneud tŷ yn fwy eco-gyfeillgar.

Bydd y gêm fuddugol yn cael ei chyhoeddi ar wefan Energy Saving Trust a bydd yr enillydd yn derbyn taleb One4All gwerth £100 i'w hun a £2,000 i'w ysgol wario ar offer. Bydd yr ail orau yn derbyn taleb werth £50 i'w hun a £1,000 i'w hysgol, a bydd yr unigolyn neu'r tîm sy'n dod yn drydydd yn ennill taleb werth £25 a £500 i'w ysgol.

Meini prawf:
1. Dilyn y Briff - A yw'ch gêm yn hyrwyddo arbed ynni?
2. Gwreiddioldeb - A yw'ch gêm yn unigryw? (Cadwch hyn mewn cof wrth ddewis eich meddalwedd - byddai'n well gan ein beirniaid pe byddech chi'n osgoi defnyddio Minecraft fel bod gennych chi fwy o gyfle i ddangos eich creadigrwydd gyda'r gêm.)
3. Profiad – Does your game make us want to play it?

Cyngor Cyffredinol:
1. Peidiwch â gadael i'ch gêm fod yn rhy fawr neu gymhleth! Gallwch chi wastad ei ehangu ar ôl y gystadleuaeth.
2. Dewiswch y dechnoleg a'r feddalwedd sy'n fwyaf addas i chi. Mae croeso i chi ymchwilio i rai eraill! Cyn belled â'i bod hi'n hawdd ei ddefnyddio i redeg ar ein cyfrifiaduron.
3. Sicrhewch nad yw'r feddalwedd yn costio arian i agor/rhedeg y gêm

Os ydych chi'n ansicr ynghylch y pwyntiau hyn, croeso i chi wneud hynny trwy gysylltu â ni i ofyn am eich cynlluniau a byddwn yn helpu.

Mae popeth sydd angen ei wybod yn y canllaw a sesiynau rhithwir isod. Rhaid i bawb gofrestru cyn ymgeisio.

POB LWC!