Llwyddiant Adeiladau Cyd-drigo Minecraft

adminNewyddion

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Cyd-gartrefi Abertawe a Christopher Gutteridge o Adran TG Prifysgol Southampton, yn ogystal ag ysgolion yn yr ardal i ddylunio adeiladau cyd-drigo ar gyfer trigolion lleol.

Mae Swansea Co-Housing wedi bod yn ymchwilio i gyfleoedd i ddatblygu lleoedd byw cynaliadwy a chynhenid yn ardal Abertawe. Ymunon ni i weithio ar brosiect lle gofynnir i blant ysgol lleol ail-ddylunio adeiladau diffaith yn Sgeti, Abertawe trwy Minecraft at ddibenion cyd-drigo.

Crewyd byd Minecraft fel replica union o Abertawe, gan gynnwys y safle ei hun yn Sketty, Brangwyn Hall a'r ardal leol o Uplands. Mae'r ddau adeilad a fydd yn cael eu hailgynllunio yn Sgeti, a gofynnwyd i ddisgyblion fynd y tu mewn ac asesu toi, lloriau a manylion eraill gan ddefnyddio Minecraft: Education Edition.

Gweithio ni gydag Ysgol Gynradd Sgeti i annog disgyblion i ddylunio'r adeiladau newydd. Er na fydd y dyluniadau yn cael eu defnyddio yn y byd go iawn, gofynnir i ddisgyblion ystyried:

  • Yr amgylchedd lleol - er enghraifft, mae'r adeiladau mewn ardal gadwraeth leol
  • Anghenion y Cyngor
  • Anghenion aelodau'r gymuned leol
  • Anghenion y gymuned cyd-drigo, sydd yn aml o wahanol oedrannau ac yn byw mewn ffyrdd gwahanol
  • Agosrwydd at amwynderau cyfagos
  • Cynaliadwyedd - er enghraifft, defnyddio pympiau gwres o'r ddaear neu bympiau gwres ffynhonnell aer
  • Meintiau ac anghnion yr ystafelloedd
  • Anghenion hygyrchedd

Roedd y prosiect yn llwyddiant enfawr, gyda disgyblion ac athrawon yn dysgu o'r profiad. Meddai cydlynydd y prosiect a Rheolwr Gweithdrefnau Technocamps, Luke Clement, "Roedd y disgyblion yn gyffrous i weld eu hamgylchedd lleol mewn byd Minecraft, ac fe wnaeth hyn eu hysbrydoli i ddeall y materion go iawn yn eu hardal a meddwl am atebion creadigol ac realistig. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion eraill ar brosiectau tebyg yn y flwyddyn academaidd newydd!

Y nod oedd ysbrydoli pobl ifanc i gyfuno celf â gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gymryd rhan mewn ffordd arloesol o ddylunio eu cymuned leol. Roedd hyn yn datblygu eu sgiliau creadigol a digidol mewn amgylchedd hwyliog. Mae hefyd yn debygol o wedi cyflwyno’r syniad o sefyllfaoedd cymdeithasol, tai a theuluol sy’n wahanol i sefyllfaoedd y disgyblion eu hunain.

Diolch yn fawr i Lucy Johns, James Crofts, a Beverly Phillips o Ysgol Gynradd Sgeti; Noel Isherwood, Leonie Ramondt, ac Adrian Lester o Swansea Co-Housing; a Christopher Gutteridge (isod) o Brifysgol Southampton am eu cymorth ar y prosiect hwn.