Astudiaeth Achos: Lauren Powell

adminAstudiaeth Achos, Newyddion, Staff

Cyn mynd i'r brifysgol, nid oedd Lauren yn gwybod beth roedd hi eisiau ei wneud. Ar ôl dysgu am Gyfrifiadureg, daeth hi'n frwdfrydig am waith Technocamps a gwneud ei rhan i annog pobl ifanc (yn enwedig merched!) i mewn i STEM.

Yn yr ysgol, roedd Lauren yn mwynhau mathemateg ond nid oedd ganddi ddiddordeb mewn gwneud gradd ynddi. Pan ddaeth ar draws Cyfrifiadureg mewn digwyddiad gyrfaoedd, meddyliodd “dyma bopeth rydw i’n mwynhau am Fathemateg ond gallaf ei gymhwyso i rywbeth mwy diddorol,” felly penderfynodd astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, heb unrhyw syniad beth fyddai fel. 

Mwynhaodd Lauren bob agwedd ar y radd a phan glywodd am waith Technocamps, roedd hi'n awyddus i gymryd rhan. Nid oedd hi erioed wedi clywed am Gyfrifiadura na Chyfrifiadureg gan nad oedd yn cael ei gynnig yn yr ysgol, felly pan gafodd y cyfle i weithio gyda Technocamps, roedd hi eisiau cynnig y cyfle yr oedd hi’n dymuno ei gael i blant. Trwy Technocamps, cafodd Lauren gyfle i ddysgu plant o bob oed am Gyfrifiadureg, am sut mae mwy iddo nag ysgrifennu cod, ac am feddwl cyfrifiadurol a datrys problemau. Cafodd gyfle hefyd i fynychu llawer o ddigwyddiadau Merched mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg (GiSTa grwpiau Girlguiding a bod yn fodel rôl mewn STEM nad oedd hi wedi ei gael. Mwynhaodd Lauren weld pa mor ysbrydoledig a gweithgar oedd y merched, a ysgogodd hyn iddi wneud mwy. Mae cyfrifiadureg yn bwnc pwysig i’w ddysgu o bob oed, ac mae’n bwysig i blant ddeall sut i ddefnyddio cyfrifiaduron yn effeithiol ac yn ddiogel i wella agweddau o’u dysgu. Rydyn ni'n byw mewn byd digidol sy'n datblygu'n gyflym felly mae Lauren yn deall pwysigrwydd plant yn deall meddwl cyfrifiadurol a'i ddefnyddio yn ei gyfanrwydd o'u haddysg i roi'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i fynd i'r byd gwaith.

Yn ystod ei chyfnod fel Swyddog Addysgu Technocamps, sefydlodd Lauren y Rhaglen Llysgenhadon, sy’n galluogi myfyrwyr i fod ynrhan o Technocamps ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Mae rhan o'u rôl yn cynnwys cynorthwyo mewn gweithdai a chreu adnoddau ychwanegol. Mae’r llysgenhadon wedi bod yn gefnogaeth fawr i Technocamps ac mae’n wych cael cymaint o fodelau rôl gyda llwybrau amrywiol i mewn i Gyfrifiadureg yn cymell ac yn ysbrydoli plant. 

Yn Technocamps, cafodd Lauren y cyfle i ddysgu modiwl Diogelwch Cyfrifiadurol ar y rhaglen Gradd-brentisiaeth. Mae seiberddiogelwch wedi bod yn bwnc o ddiddordeb iddi erioed, ac roedd gallu rhannu’r wybodaeth a’r brwdfrydedd hwn am y pwnc gyda phobl eraill wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Fodd bynnag, roedd hyn, ynghyd ag addysgu mewn ysgolion, yn dangos i Lauren y diffyg gwybodaeth gyffredin sydd am seiberddiogelwch a sut i gadw'n ddiogel, a phwysigrwydd rhaglenni fel Technocamps. Ysbrydolodd hyn Lauren i edrych ymhellach ar addysg seiberddiogelwch, gan edrych ar y cynnwys sy'n cael ei ddysgu, a sut y caiff ei ddysgu i fod yn fwy perthnasol gyda'r defnydd o dasgau ymarferol. 

Diolch i'r holl gyfleoedd a phrofiad amhrisiadwy a gefais wrth weithio gyda Technocamps, rydw i bellach yn Ddarlithydd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe. Caniataodd fy rôl yn Technocamps i mi ddatblygu fy sgiliau addysgu a darganfod gwir brwdfrydedd am addysgu, tra'n galluogi fy ochr greadigol wrth ddatblygu adnoddau gweithdy rydw i'n ei ddefnyddio wrth ddarlithio. Mae fy hyder a fy ngwybodaeth wedi tyfu’n anhygoel, rydw i wedi gallu ffynnu diolch i gefnogaeth pob un aelod o dîm Technocamps, rydw i wedi dysgu cymaint ac ni allwn ddychmygu fy mywyd nawr heb y teulu Technocamps.