Technocamps yn ennill Gwobr STEM enfawr

adminGwobrau, Newyddion

Mae Technocamps wedi ennill Gwobr STEM Inspiration i gydnabod ei waith estyn allan yng Nghymru.

Mae Technocamps wedi cael ei ddewis fel enillydd ar gyfer Gwobr STEM Inspiration yn y categori Cyfraniad Eithriadol i Ehangu Cyfranogiad, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn STEM. Mae’r categori hwn yn cydnabod unigolion, grwpiau, sefydliadau a chwmnïau sydd wedi annog amrywiaeth a chynhwysiant o fewn STEM.

Mae Technocamps yn rhaglen allgymorth i ysgolion, cymunedau a diwydiant ledled Cymru. Mae wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae ganddi hybiau ym mhob prifysgol ledled Cymru. Mae'n fraint cael bod ymhlith cwmnïau, prosiectau ac unigolion arloesol ac ennill y wobr eleni. Mae'r gwobrau hyn yn dathlu'r rhai sy'n hyrwyddo ac yn gwneud gwahaniaeth i STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yng Nghymru.

Mae gweithgaredd traddodiadol Technocamps yn canolbwyntio ar ddarparu gweithdai atyniadol i ysgolion uwchradd i annog disgyblion i ddewis pynciau cyfrifiadura a STEM ar lefel TGAU, Lefel A a thu hwnt. Mae ei rhaglen Cyfrifiadureg y Maes Chwarae yn gweithio gydag ysgolion cynradd i wella'r broblem o grwpiau penodol o bobl ifanc - yn enwedig merched - yn ddatgysylltu â phynciau STEM yn y cyfnod pontio rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd. Cydnabyddir y gweithgareddau hyn, ynghyd â ffyrdd creadigol Technocamps o ymgysylltu â phobl ifanc o bell yn ystod y pandemig, gan y wobr hon.

Cafodd enwebiadau eu hystyried gan banel o bobl fentrus Cymraeg sy'n arwain y diwydiant, gyda'r seremoni wobrwyo genedlaethol yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 25 Mai 2022.

Meddai'r Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps, “Rydym yn wirioneddol wrth ein bodd ein i ennill y wobr hon. Ar ôl bod yn erbyn rhai o'r mentrau mwyaf anhygoel yn y wlad, rydyn ni'n teimlo'n ostyngedig iawn, ac rydym yn falch iawn o gael y gydnabyddiaeth am y gwaith caled rydym yn ei wneud.”

Hoffwn ni hefyd longyfarch ein partneriaith a chyd-enillwyr, DVLA!